Wicipedia:Ar y dydd hwn/Medi
From Wikipedia, the free encyclopedia
1 Medi: Diwrnod annibyniaeth Wsbecistan (1991)
- 1912 (112 blynedd yn ôl) – Ganwyd Gwynfor Evans yn y Barri; arweinydd Plaid Cymru (m. 2005)
- 1972 (52 blynedd yn ôl) – Daeth Bobby Fischer yn Bencampwr Gwyddbwyll y Byd, yr unig Americanwr hyd yn hyn i wneud hynny, wrth guro Boris Spassky.
- 1985 (39 blynedd yn ôl) – Bu farw Saunders Lewis; dramodydd, gwleidydd a thad Cymdeithas yr Iaith
- 2006 (18 blynedd yn ôl) – Bu farw'r arlunydd Kyffin Williams
2 Medi: Diwrnod cenedlaethol Fietnam
- 31 CC – ymladdwyd Brwydr Actium, trobwynt a arweiniodd at ddiwedd Gweriniaeth Rhufain a dechrau'r Ymerodraeth Rufeinig.
- 1666 (358 blynedd yn ôl) – cynheuwyd Tân Mawr Llundain.
- 1908 (116 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru mewn cyfarfod yn Llangollen.
- 1929 (95 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actor Victor Spinetti yng Nghwm, Blaenau Gwent.
- 1973 (51 blynedd yn ôl) – bu farw'r awdur J. R. R. Tolkien yn 81 oed.
3 Medi: Diwrnod annibyniaeth Catar (1971) a gŵyl genedlaethol San Marino
- 1741 (283 blynedd yn ôl) – ganwyd Owain Myfyr, un o brif noddwyr llenyddiaeth Gymraeg
- 1868 (156 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd a'r llenor John Prydderch Williams (Rhydderch o Fôn)
- 1927 (97 blynedd yn ôl) – agorwyd Coleg Harlech gan Thomas Jones (1870-1955)
- 1933 (91 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Fine Gael, yr ail blaid wleidyddol fwyaf yng Ngweriniaeth Iwerddon
- 1939 (85 blynedd yn ôl) – dechrau'r Ail Ryfel Byd - cyhoeddodd Ffrainc a'r Deyrnas Unedig ryfel yn erbyn yr Almaen.
4 Medi; Gŵyl Mabsant Santes Rhuddlad
- 1911 (113 blynedd yn ôl) – ganwyd yr athronydd a'r awdur J. R. Jones ym Mhwllheli, awdur 'Prydeindod'
- 1934 (90 blynedd yn ôl) – ganwyd Clive W. J. Granger yn Abertawe, enillydd Gwobr Economeg Nobel
- 1934 (90 blynedd yn ôl) – Lloyd George, Prif Weinidog y DU yn cyfarfod Adolf Hitler yn Nyth yr Eryr, Bafaria
- 1989 (35 blynedd yn ôl) – bu farw'r awdur o wlad Belg, Georges Simenon
- 1998 (26 blynedd yn ôl) – ffurfiwyd Google gan ddau fyfyriwr, Larry Page a Sergey Brin
- 1287 (737 blynedd yn ôl) – cwympodd Castell y Dryslwyn i'r Normaniaid
- 1820 (204 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd a'r ysgrifwr Evan Jones (Ieuan Gwynedd)
- 1877 (147 blynedd yn ôl) – bu farw Thasuka Witco ("Crazy Horse"), pennaeth llwyth brodorol y Lakota yng Ngogledd America
- 1927 (97 blynedd yn ôl) – agorwyd Coleg Harlech, syniad Thomas Jones, Rhymni.
- 1997 (27 blynedd yn ôl) – bu farw'r Fam Teresa, lleian ac enillydd Gwobr Heddwch Nobel
6 Medi: Gŵyl mabsant Idloes; Diwrnod Annibyniaeth Gwlad Swasi (1968)
- 1869 (155 blynedd yn ôl) – Ganwyd y cerddor a'r cyfansoddwr Walford Davies
- 1917 (107 blynedd yn ôl) – Cyhoeddwyd Hedd Wyn, a laddwyd chwe wythnos ynghynt, yn enillydd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol
- 1972 (52 blynedd yn ôl) – Ganwyd yr actor Idris Elba
- 2007 (17 blynedd yn ôl) – Bu farw y tenor Luciano Pavarotti
- 1548 (476 blynedd yn ôl) – Bu farw Catrin Parr, chweched gwraig Harri VIII, brenin Lloegr
- 1812 (212 blynedd yn ôl) – ymladdwyd Brwydr Borodino rhwng Ffrainc a Rwsia
- 1925 (99 blynedd yn ôl) – ganwyd Laura Ashley, cynllunydd ffasiwn († 1986) yn Nowlais, Merthyr Tudful
- 1918 (106 blynedd yn ôl) – bu farw Morfydd Llwyn Owen, cyfansoddwraig, pianydd a chantores, yn 26 oed
- 1994 (30 blynedd yn ôl) – ganwyd Elinor Barker, seiclwraig o Gaerdydd
8 Medi: Diwrnod annibyniaeth Gogledd Macedonia (1991); diwrnod cenedlaethol Andorra; Dydd Gŵyl Cynfarch
- 1258 (766 blynedd yn ôl) – cafodd byddin Cymru un o'i buddugoliaethau mwyaf, ym Mrwydr Cilgerran
- 1840 (184 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd Thomas Evans (Telynog) yn Aberteifi
- 1921 (103 blynedd yn ôl) – ganwyd y diddanwr Harry Secombe yn Abertawe
- 1936 (88 blynedd yn ôl) – llosgwyd Ysgol Fomio ym Mhenyberth gan Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams
- 1966 (58 blynedd yn ôl) – agorwyd Pont Hafren, y bont ffordd cyntaf dros aber Hafren
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – ganwyd Gary Speed, rheolwr a phêl-droediwr Cymreig.
- 1828 (196 blynedd yn ôl) – ganwyd Lev Tolstoy, nofelydd († 1910)
- 1513 (511 blynedd yn ôl) – bu farw Iago IV, Brenin yr Alban yn 40 oed
- 1901 (123 blynedd yn ôl) – bu farw Henri de Toulouse-Lautrec 36, arlunydd
- 1966 (58 blynedd yn ôl) – bu farw Elizabeth Watkin Jones, awdures llyfrau plant e.e. Luned Bengoch ac Y Cwlwm Cêl
- 2010 (14 blynedd yn ôl) – ymddiswyddodd John Toshack ar 9 Medi 2010 ar ôl i Gymru golli yn erbyn Montenegro
10 Medi: Diwrnod cenedlaethol Gibraltar
- 1604 (420 blynedd yn ôl) – bu farw William Morgan, cyfieithydd y Beibl
- 1797 (227 blynedd yn ôl) – bu farw Mary Wollstonecraft, awdures, athronydd a dadleuwr dros hawliau merched
- 1915 (109 blynedd yn ôl) – sefydlwyd y gangen gyntaf oll o Sefydliad y Merched yn Llanfair Pwllgwyngyll
- 1915 (109 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd Geraint Bowen
- 1985 (39 blynedd yn ôl) – bu farw Ernst Julius Opik, seryddwr a thaid Lembit Opik cyn-AS dros Faldwyn.
11 Medi: La Diada - Diwrnod Cenedlaethol Catalwnia; Gŵyl mabsant Deiniol
- 1297 (727 blynedd yn ôl) – Brwydr Pont Stirling
- 1767 (257 blynedd yn ôl) – bu farw Theophilus Evans, awdur Drych y Prif Oesoedd.
- 1878 (146 blynedd yn ôl) – Trychineb Glofa'r Prince of Wales, Abercarn, lle bu'r drydedd drychineb waethaf yng Nghymru pan laddwyd 268 o weithwyr.
- 1977 (47 blynedd yn ôl) – ganwyd y chwaraewr snwcer Matthew Stevens yng Nghaerfyrddin
- 2001 (23 blynedd yn ôl) – ymosodiadau 11 Medi 2001 yn erbyn yr Unol Daleithiau, yn Efrog Newydd ac yn Washington
12 Medi: Diwrnod cenedlaethol Cabo Verde
- 490 CC – Brwydr Marathon
- 1906 (118 blynedd yn ôl) – agorwyd Pont Gludo Casnewydd
- 1914 (110 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actor Desmond Llewelyn ym Metws, ger Casnewydd
- 2003 (21 blynedd yn ôl) – enillodd Iwan Thomas y Fedal Aur ym Mhencampwriaethau'r Byd (Athletau) yn Ne Affrica.
- 2003 (21 blynedd yn ôl) – bu farw'r cerddor Americaniadd Johnny Cash
- 1501 (523 blynedd yn ôl) – dechreuodd Michelangelo ar ei gerflun Dafydd
- 1598 (426 blynedd yn ôl) – bu farw Felipe II, brenin Sbaen, gŵr Mari Tudur
- 1898 (126 blynedd yn ôl) – ganwyd Sam Jones, sefydlydd stiwdio'r BBC ym Mangor a rhaglenni fel Noson Lawen a Talwrn y Beirdd. Bu farw hefyd ar y diwrnod hwn ym 1974.
- 1916 (108 blynedd yn ôl) – ganwyd Roald Dahl yn Llandaf
- 1975 (49 blynedd yn ôl) – ailagorwyd Gorsaf reilffordd Llangollen
14 Medi: Gŵyl mabsant Ffinan a Thecwyn
- 1321 (703 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd Dante Alighieri
- 1854 (170 blynedd yn ôl) – ganwyd Hugh Evans, cyhoeddwr ac awdur
- 1916 (108 blynedd yn ôl) – ganwyd y gwleidydd Cledwyn Hughes yng Nghaergybi
- 1943 (81 blynedd yn ôl) – darlledwyd llais Wynford Vaughan Thomas a recordiwyd mewn awyren Lancaster ar y BBC yn disgrifio'r RAF yn bomio adeiladau a phobl a phlant Berlin.
- 1962 (62 blynedd yn ôl) – dechreuodd Teledu Cymru (neu WWN) ddarlledu ar rwydwaith ITV i'r rhan fwyaf o Gymru, hyd at 1968
- 1982 (42 blynedd yn ôl) – bu farw Grace Kelly, actores a thywysoges Monaco, wedi damwain car.
15 Medi: Diwrnod Rhyngwladol Democratiaeth; Ffair Fêl Conwy
- 1254 (770 blynedd yn ôl) – ganwyd y fforiwr Marco Polo
- 1890 (134 blynedd yn ôl) – ganwyd y nofelydd Agatha Christie
- 1967 (57 blynedd yn ôl) – bu farw'r chwaraewr rygbi Rhys Gabe
- 1967 (57 blynedd yn ôl) – bu farw Enid Wyn Jones ar awyren o Melbourne; is-Lywydd Cyngor Prydain o YWCA
- 2011 (13 blynedd yn ôl) – lladdwyd pedwar o lowyr yn Nhrychineb Glofa'r Tarenni Gleision, yng Nghwm Tawe
16 Medi: Diwrnod Owain Glyn Dŵr
- 1387 (637 blynedd yn ôl) – Ganwyd Harri V, brenin Lloegr, yn Nhrefynwy
- 1400 (624 blynedd yn ôl) – Cyhoeddwyd Owain Glyn Dŵr yn dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy, gan ddechrau gwrthryfel yn erbyn coron Lloegr
- 1620 (404 blynedd yn ôl) – Cychwynnodd llong y Mayflower ar ei thaith i'r Amerig
- 1915 (109 blynedd yn ôl) – Sefydlwyd cangen cyntaf Sefydliad y Merched, yn Llanfairpwllgwyngyll.
- 1179 (845 blynedd yn ôl) – bu farw'r lleian, diwynydd a chyfansoddwraig Hildegard von Bingen
- 1787 (237 blynedd yn ôl) – arwyddwyd Cyfansoddiad Unol Daleithiau America
- 1811 (213 blynedd yn ôl) – agorwyd y Cob ym Mhorthmadog gan William Alexander Madocks
- 1986 (38 blynedd yn ôl) – bu farw'r cynllunydd ffasiwn o Gymraes Laura Ashley
- 2011 (13 blynedd yn ôl) – cychwynnodd protestiadau Occupy Wall Street yn Efrog Newydd
- 1667 (357 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd a chyfieithydd Rowland Vaughan Caer Gai, plwyf Llanuwchllyn
- 1939 (85 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd Gwen John, arlunydd benywaidd gorau Cymru yn ôl rhai
- 1997 (27 blynedd yn ôl) – cynhaliwyd Refferendwm sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- 2014 (10 mlynedd yn ôl) – cynhaliwyd Refferendwm annibyniaeth i'r Alban
19 Medi: Diwrnod Rhyngwladol Siarad fel Môr-leidr
- 1356 (668 blynedd yn ôl) – Brwydr Poitiers rhwng Lloegr a Ffrainc
- 1759 (265 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Gwaith Haearn Dowlais, ger Merthyr Tudful
- 1980 (44 blynedd yn ôl) – derbyniodd Johnny Owen ddyrnod farwol yn Los Angeles, wrth baffio yn erbyn Lupe Pintor
- 1985 (39 blynedd yn ôl) – bu farw'r awdur Eidalaidd Italo Calvino awdur Y Barwn yn y Coed (Il barone rampante; 1957)
- 1992 (32 blynedd yn ôl) – bu farw'r canwr opera Syr Geraint Evans
- 1486 (538 blynedd yn ôl) – ganwyd y tywysog Arthur Tudur, mab hynaf Harri VII, brenin Lloegr (m. 1502)
- 1878 (146 blynedd yn ôl) – ganwyd yr awdur Americanaidd Upton Sinclair (m. 1968)
- 1927 (97 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actores Rachel Roberts yn Llanelli (m. 1980)
- 1934 (90 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actores Sophia Loren yn Rhufain
- 1957 (67 blynedd yn ôl) – bu farw y cyfansoddwr Jean Sibelius, 91
21 Medi: Diwrnod Rhyngwladol Heddwch
- 19 CC – bu farw'r bardd Rhufeinig Fyrsil
- 1586 (438 blynedd yn ôl) – dienyddiwyd mab hynaf Catrin o Ferain, sef Thomas Salusbury (g. 1564)
- 1832 (192 blynedd yn ôl) – bu farw y llenor o Albanwr, Walter Scott
- 1887 (137 blynedd yn ôl) – ganwyd y llenor T. H. Parry-Williams yn Rhyd-Ddu, Arfon
- 1965 (59 blynedd yn ôl) – darganfyddwyd olew wrth waelod Môr y Gogledd gan gwmni BP
22 Medi: Diwrnod annibyniaeth Bwlgaria (1908) a Mali (1960)
- 1837 (187 blynedd yn ôl) – Ganwyd Thomas Charles Edwards, prifathro cyntaf Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn Llanycil, Gwynedd
- 1923 (101 blynedd yn ôl) – Ganwyd Dannie Abse, bardd yn yr iaith Saesneg, yng Nghaerdydd
- 1934 (90 blynedd yn ôl) – Trychineb Glofa Gresffordd, Wrecsam
- 1937 (87 blynedd yn ôl) – Ganwyd Richard Marquand, cyfarwyddwr y ffilm Return of the Jedi yn y gyfres Star Wars, yng Nghaerdydd
- 1955 (69 blynedd yn ôl) – Cyhoeddwyd Bannau Brycheiniog yn barc cenedlaethol
23 Medi: Diwrnod Dathlu Deurywioldeb
- 1215 (809 blynedd yn ôl) – ganwyd Kublai Khan, ymerawdwr cyntaf Brenhinllin Yuan yn Tsieina
- 1793 (231 blynedd yn ôl) – cyrhaeddodd John Evans, o'r Waunfawr, lwyth y Mandan yn nyffryn y Missouri
- 1846 (178 blynedd yn ôl) – darganfuwyd y blaned Neifion
- 1939 (85 blynedd yn ôl) – bu farw'r niwrolegydd a'r seicolegydd Sigmund Freud
- 1988 (36 blynedd yn ôl) – bu farw'r cyfansoddwr Arwel Hughes
24 Medi: Diwrnod annibyniaeth Gini Bisaw oddi wrth Portiwgal (1973)
- 622 (1402 blynedd yn ôl) – cyrhaeddodd Muhammad Medina ar ôl ffoi o Mecca. Gelwir y daith hon yn Hijra.
- 1798 (226 blynedd yn ôl) – daeth Gwrthryfel Gwyddelig 1798 i ben
- 1885 (139 blynedd yn ôl) – bu farw y diwygiwr radicalaidd Samuel Roberts, Llanbrynmair
- 1933 (91 blynedd yn ôl) – ganwyd Terry Davies, a enillodd 21 o gapiau'n chwarae rygbi dros Gymru
- 1936 (88 blynedd yn ôl) – ganwyd y pypedwr Americanaidd Jim Henson
- 1987 (37 blynedd yn ôl) – bu farw'r actor Emlyn Williams yn ei fflat yn Llundain.
25 Medi Gŵyl Mabsant Meugan (nawddsant teithwyr), Tyrnog a Caian
- 1066 (958 blynedd yn ôl) – Brwydr Pont Stamford rhwng Harold Godwinson, brenin Lloegr, a Harald Hardrada, brenin Norwy.
- 1565 (459 blynedd yn ôl) – Bu farw Rowland Meyrick, Esgob Bangor a ffigwr blaenllaw yn hanes y Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru
- 1939 (85 blynedd yn ôl) – Agorwyd yr ysgol Gymraeg cyntaf yng Nghymru, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, gyda Norah Isaac yn Brifathrawes
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – Ganwyd yr actores Catherine Zeta-Jones yn Abertawe
- 2000 (24 blynedd yn ôl) – Bu farw'r bardd R. S. Thomas
- 1468 (556 blynedd yn ôl) – ganwyd y cardinal o Sbaenwr Juan de Torquemada
- 1742 (282 blynedd yn ôl) – ganwyd yr arlunydd Thomas Jones
- 1814 (210 blynedd yn ôl) – bu farw Owen Jones (Owain Myfyr)
- 1888 (136 blynedd yn ôl) – ganwyd y llenor Americanaidd T. S. Eliot
- 1924 (100 mlynedd yn ôl) – torrodd Malcolm Campbell record y byd am yrru ar gyflymder ar dir, ar draeth Pentywyn yn y car Sunbeam.
- 1995 (29 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd Cymreig Lynette Roberts; bardd pwysica'r Ail Ryfel Byd yn ôl Patrick McGuinness.
- 1819 (205 blynedd yn ôl) – daeth John Evans i olau dydd yn fyw wedi deuddeg diwrnod wedi'i gaethiwo o dan y ddaear
- 1904 (120 blynedd yn ôl) – ganwyd y dramodydd John Gwilym Jones yn y Groeslon, Dyffryn Nantlle
- 1919 (105 blynedd yn ôl) – bu farw'r gantores opera Adelina Patti yng Nghraig-y-nos, Powys
- 1943 (81 blynedd yn ôl) – ganwyd y canwr a'r difyrrwr Max Boyce yng Nglyn-nedd
- 1746 (278 blynedd yn ôl) – ganwyd yr ieithegwr William Jones
- 1836 (188 blynedd yn ôl) – ganwyd y cerddor ac arlunydd Hugh Jerman yn Llanidloes
- 1842 (182 blynedd yn ôl) – ganwyd William John Parry, prif sylfaenydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru
- 1898 (126 blynedd yn ôl) – bu farw Thomas Gee, y cyhoeddwr o Ddinbych
- 2014 (10 mlynedd yn ôl) – bu farw'r bardd Dannie Abse
29 Medi: Gŵyl Fihangel yng Nghristnogaeth y Gorllewin
- 1267 (757 blynedd yn ôl) – drwy Gytundeb Trefaldwyn cydnabu'r brenin Seisnig, Harri, mai Llywelyn ap Gruffudd oedd gwir Dywysog Cymru
- 1341 (683 blynedd yn ôl) – ymladdwyd brwydr olaf Rhyfel Olyniaeth Llydaw, pan laddwyd Charles de Blois
- 1939 (85 blynedd yn ôl) – ganwyd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru o 2000 i 2009, yng Nghaerdydd
- 1943 (81 blynedd yn ôl) – ganwyd Lech Wałęsa, Arlywydd Gwlad Pwyl o 1990 i 1995
- 1961 (63 blynedd yn ôl) – ganwyd Julia Gillard, Prif Weinidog Awstralia o 2010 i 2013, yn y Barri, Bro Morgannwg
30 Medi: Dydd Gŵyl Enghenedl Sant
- 1294 (730 blynedd yn ôl) – dechreuodd gwrthryfel Madog ap Llywelyn a fabwysiadodd y teitl 'Tywysog Cymru' yn dilyn lladd Llywelyn ap Gruffudd
- 1402 (622 blynedd yn ôl) – yn dilyn Gwrthryfel Glyn Dŵr pasiwyd Deddf yn Llundain a oedd yn atal Cymry rhag cario arfau, gwrando ar eu beirdd, ymgynull ayb
- 1791 (233 blynedd yn ôl) – perfformiwyd yr opera Y Ffliwt Hud gan Wolfgang Amadeus Mozart am y tro cyntaf, yn Fienna, Awstria
- 1878 (146 blynedd yn ôl) – bu farw Evan James (Ieuan ap Iago), tua 70, awdur geiriau Hen Wlad fy Nhadau
- 1904 (120 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd Waldo Williams yn Hwlffordd, Sir Benfro (m. 1971)