Wicipedia:Ar y dydd hwn/24 Medi
From Wikipedia, the free encyclopedia
24 Medi: Diwrnod annibyniaeth Gini Bisaw oddi wrth Portiwgal (1973)
- 622 (1402 blynedd yn ôl) – cyrhaeddodd Muhammad Medina ar ôl ffoi o Mecca. Gelwir y daith hon yn Hijra.
- 1798 (226 blynedd yn ôl) – daeth Gwrthryfel Gwyddelig 1798 i ben
- 1885 (139 blynedd yn ôl) – bu farw y diwygiwr radicalaidd Samuel Roberts, Llanbrynmair
- 1933 (91 blynedd yn ôl) – ganwyd Terry Davies, a enillodd 21 o gapiau'n chwarae rygbi dros Gymru
- 1936 (88 blynedd yn ôl) – ganwyd y pypedwr Americanaidd Jim Henson
- 1987 (37 blynedd yn ôl) – bu farw'r actor Emlyn Williams yn ei fflat yn Llundain.