Wicipedia:Ar y dydd hwn/14 Medi
From Wikipedia, the free encyclopedia
14 Medi: Gŵyl mabsant Ffinan a Thecwyn
- 1321 (702 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd Dante Alighieri
- 1854 (169 blynedd yn ôl) – ganwyd Hugh Evans, cyhoeddwr ac awdur
- 1916 (107 blynedd yn ôl) – ganwyd y gwleidydd Cledwyn Hughes yng Nghaergybi
- 1943 (80 blynedd yn ôl) – darlledwyd llais Wynford Vaughan Thomas a recordiwyd mewn awyren Lancaster ar y BBC yn disgrifio'r RAF yn bomio adeiladau a phobl a phlant Berlin.
- 1962 (61 blynedd yn ôl) – dechreuodd Teledu Cymru (neu WWN) ddarlledu ar rwydwaith ITV i'r rhan fwyaf o Gymru, hyd at 1968
- 1982 (41 blynedd yn ôl) – bu farw Grace Kelly, actores a thywysoges Monaco, wedi damwain car.