Vince Cable
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Prydeinig yw Syr John Vincent Cable (ganed 9 Mai 1943) a oedd yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2017 a 2010 ac yn Aelod Seneddol dros Twickenham o 1997 i 2015 ac ers 2017. Roedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau o 2010 i 2015.
Y Gwir Anrhydeddus Syr Vince Cable AS | |||
---|---|---|---|
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol | |||
Yn ei swydd 20 Gorffennaf 2017 – 22 Gorffennaf 2019 | |||
Arlywydd | Sal Brinton | ||
Dirprwy | Jo Swinson | ||
Rhagflaenwyd gan | Tim Farron | ||
Dilynwyd gan | Jo Swinson | ||
Yn ei swydd 15 Hydref 2007 – 18 Rhagfyr 2007 Dros dro | |||
Arlywydd | Simon Hughes | ||
Rhagflaenwyd gan | Menzies Campbell | ||
Dilynwyd gan | Nick Clegg | ||
Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros y Trysorlys | |||
Yn ei swydd 8 Mai 2017 – 20 Gorffennaf 2017 | |||
Arweinydd | Tim Farron | ||
Rhagflaenwyd gan | Y Farwnes Kramer | ||
Dilynwyd gan | Y Farwnes Kramer | ||
Yn ei swydd 12 Mehefin 2003 – 11 Mai 2010 | |||
Arweinydd | Charles Kennedy Menzies Campbell Nick Clegg | ||
Rhagflaenwyd gan | Matthew Taylor | ||
Dilynwyd gan | Danny Alexander (2015)[a] | ||
Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau Llywydd y Bwrdd Masnach | |||
Yn ei swydd 12 Mai 2010 – 11 Mai 2015 | |||
Prif Weinidog | David Cameron | ||
Rhagflaenwyd gan | The Lord Mandelson | ||
Dilynwyd gan | Sajid Javid | ||
Liberal Democrat Spokesperson for Business, Innovation and Skills | |||
Yn ei swydd 7 Ionawr 2015 – 11 Mai 2015 | |||
Arweinydd | Nick Clegg | ||
Rhagflaenwyd gan | Yr Is-Iarll Thurso (2010)[b] | ||
Dilynwyd gan | Y Farwnes Burt o Solihull | ||
Dirprwy Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol | |||
Yn ei swydd 2 Mawrth 2006 – 26 Mai 2010 | |||
Arweinydd | Menzies Campbell Nick Clegg | ||
Rhagflaenwyd gan | Menzies Campbell | ||
Dilynwyd gan | Simon Hughes | ||
Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Fasnach a Diwydiant | |||
Yn ei swydd 9 Awst 1999 – 12 Mehefin 2003 | |||
Arweinydd | Charles Kennedy | ||
Rhagflaenwyd gan | David Chidgey | ||
Dilynwyd gan | Malcolm Bruce | ||
Aelod Seneddol dros Twickenham | |||
Deiliad | |||
Cychwyn y swydd 9 Mehefin 2017 | |||
Rhagflaenwyd gan | Tania Mathias | ||
Mwyafrif | 9,762 (14.7%) | ||
Yn ei swydd 1 Mai 1997 – 30 Mawrth 2015 | |||
Rhagflaenwyd gan | Toby Jessel | ||
Dilynwyd gan | Tania Mathias | ||
Manylion personol | |||
Ganwyd | John Vincent Cable (1943-05-09) 9 Mai 1943 (80 oed) Efrog, Lloegr | ||
Plaid wleidyddol | Y Democratiaid Rhyddfrydol (1988–presennol) | ||
Cysylltiadau gwleidyddol arall | Plaid Ryddfrydol (Cyn 1965) LLafur (1966–1982) Social Democrats (1982–1988) | ||
Priod |
| ||
Plant | 3 | ||
Alma mater |
| ||
Llofnod | |||
Gwefan | Official website | ||
a. ^ Office vacant from 12 May 2010 to 7 January 2015. b. ^ Office vacant from 12 May 2010 to 7 January 2015. |
Astudiodd Cable economeg ym Mhrifysgolion Caergrawnt a Glasgow, cyn gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cenia rhwng 1966 a 1968, ac i Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad yn y 1970au a'r 1980au. O 1968 i 1974 roedd yn ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Glasgow. Gwasanaethodd fel Prif Economegydd i Shell o 1995 i 1997. Roedd Cable yn weithgar yn y Blaid Lafur yn y 1970au, yn dod yn gynghorydd Llafur yn Glasgow. Yn 1982, gwrthgiliodd i'r blaid a ffurfiwyd o'r newydd, Plaid y Democratiaid Cymdeithasol, a aeth yn ei blaen i gyfuno â'r Blaid Ryddfrydol i ffurfio'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Daeth Cable yn Llefarydd Trysorlys y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mehefin 2003 ac fe'i hetholwyd yn ddirprwy arweinydd ym Mawrth 2006, gan wasanaethu fel Arweinydd Dros Dro am ddau fis yn 2007 o ymddiswyddiad Menzies Campbell tan etholiad Nick Clegg ar 18 Rhagfyr. Ymddiswyddodd Cable o'r ddwy swydd hyn ym Mai 2010 ar ôl dod yn Ysgrifennydd Busnes ac yn Llywydd y Bwrdd Masnach yn llywodraeth glymblaid Cameron – Clegg.
Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2017 ac ymddiswyddiad Tim Farron, fe safodd Cable yn etholiad arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2017 ac fe'i hetholwyd yn arweinydd y blaid yn ddiwrthwynebiad.
Ym Mai 2019 cyhoeddodd Cable wedi y byddai'n ymddiswyddo fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Etholwyd Jo Swinson fel ei olynydd yng Ngorffennaf 2019.