Y Blaid Lafur (DU)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Plaid wleidyddol Brydeinig, ganol-chwith yw'r Blaid Lafur a sefydlwyd ar 27 Chwefror 1900. Gellir ei hystyried yn brif gynrychiolydd y canol-chwith gwleidyddol ym Mhrydain ers y 1920au, pan esblygodd o'r undebau llafur a phleidiau sosialaidd y 19g. Symudodd tua'r canol o dan bolisi "Y Drydedd Ffordd" dan arweinyddiaeth Tony Blair ac o ganlyniad cyfeirir ati yn y 2000au fel "Llafur Newydd". Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru (gweler isod) yn rhan o Blaid Lafur y DU; yr un sefyllfa a'r Alban. Yn 2015 roedd gan y blaid oddeutu 292,000 o aelodau.[4][5]
Ffeithiau sydyn Arweinydd, Dirprwy Arweinydd ...
Y Blaid Lafur | |
---|---|
Arweinydd | Keir Starmer AS |
Dirprwy Arweinydd | Angela Rayner AS |
Sefydlwyd | 27 Chwefror 1900[1][2] |
Pencadlys | One Brewer's Green, Llundain |
Asgell myfyrwyr | Myfyrwyr Llafur |
Asgell yr ifanc | Llafur ifanc |
Aelodaeth (2019) | 485,000[3] |
Rhestr o idiolegau | Sosialaeth Democrataidd Democratiaeth cymdeithasol |
Sbectrwm gwleidyddol | Chwith-canol |
Partner rhyngwladol | Cynghrair er Cynnydd (Progressive Alliance) |
Cysylltiadau Ewropeaidd | Plaid y Sosialwyr Ewropeaidd |
Grŵp yn Senedd Ewrop | Progressive Alliance of Socialists and Democrats |
Lliw | Coch |
Tŷ'r Cyffredin | 199 / 650 |
Tŷ'r Arglwyddi | 175 / 790 |
Senedd yr Alban | 23 / 129 |
Senedd Cymru | 30 / 60 |
Cynulliad Llundain | 12 / 25 |
Llywodraeth leol yn y DU | 5,976 / 19,698 |
Gwefan | |
www.labour.org.uk |
Cau