Ken Livingstone
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Prydeinig yw Kenneth Robert Livingstone, (ganwyd 17 Mehefin 1945). Roedd yn arweinydd ar lywodraeth Llundain ddwywaith; unwaith fel arweinydd Cyngor Llundain Fwyaf, o 1981 hyd 1986 pan ddiddymwyd y Cyngor hwn gan lywodraeth Margaret Thatcher, ac wedyn fel Maer cyntaf Llundain, o 2000 hyd 2008. Roedd hefyd yn Aelod Seneddol Llafur dros Dwyrain Brent rhwng 1987 a 2000. Cafodd Livingstone ei ddiarddel o'r Blaid Lafur yn 2000, a safodd i lawr o'i swydd AS yn 2001 er mwyn canolbwyntio ar ei rwymedigaethau maerol.
Ken Livingstone | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1945 Lambeth |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, hunangofiannydd, darlledwr |
Swydd | Maer Llundain, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, cadeirydd |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur, y Blaid Lafur |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Sŵolegol |
Gwefan | http://www.london.gov.uk |
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Etholwyd fel Maer Llundain fel ymgeisydd annibynnol wedi i'r Blaid Lafur benderfynu peidio ei ddewis fel eu ymgeisydd hwy yn etholiad Maerol cyntaf. Gadawyd iddo ail-ymuno â'r Blaid Lafur yn Ionawr 2004, ac ef oedd ymgeisydd swyddogol y Blaid Lafur yn etholiad Maerol Mehefin 2004, lle enillodd gyfanswm o 823,380 pleidlais dewis cyntaf ac ail-ddewis. Ar Galan Mai 2008, collodd Livingstone etholiad Maerol i'r ymgeisydd Ceidwadol Boris Johnson, a daeth ei dymor i ben fel Maer Llundain ar 4 Mai 2008. Yn 2012 sefodd eto fel ymgeisydd Llafur i Faer Llundain ond enillodd Johnson ail dymor.[1]
Cafodd ei ddi-arddel o'r Blaid Lafur yn 2016.[2]
Bu'n gweithio fel cynghorydd cynllunio trefol ar gyfer Hugo Chávez.[3]