Hafodyrynys
pentref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Crymlyn, bwrdeistref sirol Caerffili, Cymru, yw Hafodyrynys.[1][2] Saif ar briffordd yr A472 rhwng trefi Pontypŵl a Chrylmyn. Yn hanesyddol, fe'i lleolid yn Sir Fynwy.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6836°N 3.1183°W |
Cod OS | ST227989 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhianon Passmore (Llafur) |
AS/au | Chris Evans (Llafur) |
Cau
Disgrifir y stryd fawr yn aml fel y stryd fwyaf llygredig yng Nghymru, gyda lefelau nitrogen deuocsid uchaf ym Mhrydain y tu ôl i ganol Llundain,[3] ac mae yna bolisi o ddymchwel tai sy'n cael eu heffeithio waethaf gan y traffig trwm sy'n mynd trwy'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[5]