George Galloway
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd, darlledwr ac awdur yw George Galloway (ganwyd 16 Awst 1954) a fu'n Aelod Seneddol o 1987 hyd at 2010, o 2012 hyd 2015 ac er Mawrth 2024. Daeth i amlygrwydd oherwydd ei ddaliadau cryf yn erbyn rhyfel, yn enwedig "Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009" yn erbyn y Palesteiniaid ac yn erbyn yr ymosodiad ar Irac.[1] Cafodd ei ddiarddel gan y Blaid Lafur yn Hydref 2003.[2] a sefydlu plaid newydd o'r enw Respect.
George Galloway | |
---|---|
Ganwyd | 16 Awst 1954 Dundee |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | Yr Alban, y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, colofnydd, ysgrifennwr gwleidyddol, cyflwynydd radio, cyflwynydd teledu, propagandydd |
Swydd | Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Respect Party, y Blaid Lafur, Workers Party of Britain |
Gwefan | https://www.georgegalloway.com/ |
Areithiodd o flaen Arlywydd Irac, sef Saddam Hussein, a dywed rhai iddo frolio'r Arlywydd, [3] er fod Galloway ei hun wastad mynnu nad oedd yn cytuno gydag Irac tan 1991 (Rhyfel y Gwlff). Bu o flaen Senedd yr Unol Daleithiau yn 2005 gan ateb llawer o gyhuddiadau gan y Seneddwyr.[4]
Ym Mawrth 2012 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Gorllewin Bradford,[5][6] ac ym Mawrth 2024 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Rochdale.