Eglwys y Beddrod Sanctaidd
eglwys yn Jeriwsalem / From Wikipedia, the free encyclopedia
Eglwys hynafol yn Chwarter Cristnogol dinas Jeriwsalem yw Eglwys y Beddrod Sanctaidd (Groeg: Παναγίου Τάφου; Armeneg: Սուրբ Հարության տաճար; Lladin: Ecclesia Sancti Sepulchri; Amhareg: የቅዱስ መቃብር ቤተክርስቲያን; Hebraeg: כנסיית הקבר; Arabeg: كنيسة القيامة).[1] Yn ôl traddodiad o'r 4g OC, mae'n cynnwys dwy safle sancteiddiaf y byd Cristnogol: y safle lle croeshoeliwyd Iesu Grist, mewn man o'r enw Calfaria neu Golgotha, a bedd gwag yr Iesu, lle cred rhai Cristnogion iddo gael ei gladdu a'i atgyfodi.[2] Amgaeir y beddrod gan gysegrfa o'r 19g a elwir yn yr aedicula. Mae cytundeb a elwir yn Status Quo yn ddealltwriaeth rhwng cymunedau crefyddol sy'n dyddio i 1757, ac yn berthnasol i'r safle hwn.[3][4]
Math | basilica minor, basilica patriarchaidd, eglwys gadeiriol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Beddrod yr Iesu |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Hen Ddinas Caersalem |
Gwlad | Palesteina |
Cyfesurynnau | 31.7784°N 35.2298°E |
Hyd | 120 metr |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Cristnogaeth Fore, pensaernïaeth Romanésg, pensaernïaeth Gothig |
Sefydlwydwyd gan | Cystennin I, Helena o Gaergystennin |
Cysegrwyd i | Beddrod yr Iesu |
Crefydd/Enwad | Cristnogaeth, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, yr Eglwys Gatholig Rufeinig |
Deunydd | craig |
Esgobaeth | Eglwys Uniongred Roegaidd Jeriwsalem, Patriarchaeth Ladin Jeriwsalem |
O fewn yr eglwys ceir pedair lleoliad diwethaf y Groes ar y Ffordd Ddolurus (Lladin: Via Dolorosa), sy'n cynrychioli pedwar rhan o ddyddiau olaf Crist. Bu'r eglwys yn gyrchfan pererindod Gristnogol o bwys ers ei chreu yn y 4g, fel safle traddodiadol atgyfodiad Crist, a roddodd iddi ei henw Groegaidd gwreiddiol, Eglwys yr Anastasis ('Atgyfodiad').
Heddiw, mae'r adeiladau ehangach o amgylch Eglwys y Beddrod Sanctaidd hefyd yn gwasanaethu fel pencadlys patriarch Uniongred Groegaidd Jeriwsalem, tra bod rheolaeth ar yr eglwys ei hun yn cael ei rhannu, ar yr un pryd, ymhlith sawl enwad Cristnogol ac endidau seciwlar mewn trefniadau cymhleth heb eu newid ers dros 160 mlynedd, a rhai yn hirach na hynny. Y prif enwadau sy'n rhannu'r cyfrifoldeb dros yr eglwys yw'r Eglwys Uniongred Roegaidd, yr Eglwys Gatholig Rufeinig, Eglwys Apostolaidd Armenia, ac i raddau llai yr Eglwys Goptaidd, yr Eglwys Uniongred Syrieg, ac Eglwys Uniongred Ethiopia.