Iesu
ffigwr canolog Cristnogaeth ( -33) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Iesu o Nasareth (c. 6CC - c. 27), a elwir hefyd Iesu (neu Isa gan Fwslimiaid; Iesu Grist neu Crist gan Gristnogion), yw'r unigolyn canolog mewn Cristnogaeth. Mae'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl:
- Mae Cristnogion yn credu mai ef oedd unig Fab Duw. Yn ogystal, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn credu mai ef oedd Duw ei hunan, sef ail Berson y Drindod wedi'i ymgnawdoli fel dyn.[1]
- Mae Mwslemiaid yn credu ei fod yn broffwyd Duw, yn olynydd i Ibrahim a Moses ac yn rhagflaenydd i'r Proffwyd Mohamed.[2][3]
- Mae'r rhan helaeth o academyddion yn credu mai person go iawn oedd ef.[4][5][6][7][8][note 1] Maent yn ei weld fel athro crefyddol Iddewig ond nid ydynt yn credu bod y gwyrthiau sydd yn gysylltiedig â'i fywyd wedi digwydd.
- Mae rhai yn cwestiynu a oedd Iesu Grist yn berson go iawn ac yn meddwl mai ffrwyth dychymyg ei ddisgyblion cynnar oedd ef. Er hyn, damcaniaeth ymylol yw hon nad yw'n cael ei chredu gan braidd dim ysgolheigion.[10][11][12][13]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Y gwrthwyneb ...
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol yn y Beibl, bod dynol |
---|---|
Y gwrthwyneb | Anghrist |
Mamiaith | Tafodiaith galileaidd, hebraeg beiblaidd |
Crefydd | Iddewiaeth, essenes |
Genre | dameg |
Olynydd | Simon of Cyrene |
Aelod o'r canlynol | y Drindod |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau