Cilla Black
actores a aned yn 1943 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Cilla Black OBE (ganed Priscilla Maria Veronica White; 27 Mai 1943 – 1 Awst 2015) yn gantores, cyfansoddwraig a chyflwynwraig teledu o Loegr. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel cantores, aeth Black ymlaen i fod y cyflwynwraig benywaidd i gael ei thalu fwyaf yn hanes teledu Prydeinig, yn ei chyfnod.
Cilla Black | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mai 1943 Vauxhall |
Bu farw | 1 Awst 2015 o strôc Estepona |
Label recordio | EMI, Bell Records, Parlophone Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | canwr, actor, cyflwynydd teledu, cerddor, canwr-gyfansoddwr, game show host |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Priod | Bobby Willis |
Gwobr/au | OBE |
Gwefan | http://www.cillablack.com/ |
Cychwynodd ei gyrfa fel cantores yn 1963 a chyrhaeddodd ei senglau "Anyone Who Had a Heart" (1964) a "You're My World" (1964) rif un. Cafodd lwyddiant gyda 11 o ganeuon a gyrhaeddodd y Top Ten rhwng 1964 a 1971. Ym Mai 2010, dangosodd ymchwil gan y BBC (BBC Radio 2) mai ei fersiwn hi o "Anyone Who Had a Heart" oedd y sengl gan ferch a werthodd fwyaf drwy'r 1960au.[1]
Roedd yn 72 oed ac yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno’r cyfresi Blind Date a Surprise, Surprise. Bu farw'i phriod Bobby Willis, a oedd hefyd yn Rheolwr iddi, yn 1999; roedd ganddynt ddau fab. Bu farw yn ei chartref yn Marbella, Sbaen.[2]