Strôc
From Wikipedia, the free encyclopedia
Aflonyddwch yn y cyflenwad gwaed i'r ymennydd yw strôc. Os yw'r cyflenwad gwaed yn cael ei gyfyngu neu ei atal bydd celloedd yr ymennydd yn dechrau marw, a all arwain at niwed i'r organ a marwolaeth, o bosib.
Ffeithiau sydyn ICD-10, ICD-9 ...
Strôc | |
Dosbarthiad ac adnoddau allanol | |
Sgan CT yn dangos cnawdnychiant yn hemisffer dde'r ymennydd (ac felly strôc isgemig) | |
ICD-10 | I61.-I64. |
---|---|
ICD-9 | 434.91 |
OMIM | 601367 |
DiseasesDB | 2247 |
MedlinePlus | 000726 |
eMedicine | neuro/9 emerg/558 emerg/557 pmr/187 |
MeSH |
Cau
Y ddau brif fath o strôc yw strôc isgemig, pan gaiff y cyflenwad gwaed ei atal oherwydd clot gwaed, a strôc gwaedlifol, pan fydd y gwaedlestri sy'n cyflenwi'r gwaed yn torri ac yn achosi niwed i'r ymennydd. Y math mwyaf cyffredin yw strôc isgemig, sy'n cyfrif am tua 70% o'r holl achosion.[1]