Braciopod
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffylwm o rywogaethau morol yw'r brachiopod neu'r braciopod (Lladin: Brachiopoda), gyda chregyn caled. Mae gan y gragen golfach er mwyn iddi agor a chau, a hwnnw wedi'i leoli yng nghefn yr anifail gyda'r tu blaen yn agor er mwyn bwyta, a chau er mwyn iddi amddiffyn ei hun.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Delwedd:PZSL1852PlateMollusca14.png, LingulaanatinaAA.JPG | |
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Math | Infertebrat |
Safle tacson | Ffylwm |
Rhiant dacson | Spiralia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol ...
Braciopod Brachiopoda Amrediad amseryddol: Cambriaidd–Presennol | |
---|---|
Lingula anatina o Ynys Stradbroke, Awstralia | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Uwchffylwm: | Lophotrochozoa |
Ffylwm: | Brachiopoda[1] |
Cau
Ceir dau brif grŵp: cymalog ac anghymalog. Mae gan y grŵp cyntaf golfach danneddog a chyhyr syml i agor a chau'r gragen. Colfach di-ddant sydd gan y braciopod anghymalog, a system gymhleth i gadw dwy ran y gragen yn y lle cywir. Mae gan y rhan fwyaf o fraciopodau fonyn sy'n ymwthio o agoriad yn un o'i falfiau, a elwir yn 'bedicel cloriog' (pedicle valve). Pwrpas hwn yw angori'r anifail i wely'r môr, ond ychydig yn uwch na'r tywod a'r mwd a fyddai'n mygu'r agoriad.