Triasig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfnod daearegol (a system stratigraffaidd) yw'r Triasig sy'n para 50.9 miliwn o flynyddoedd: o ddiwedd a Cyfnod Permaidd 251 miliwn o flynyddoedd CP, hyd at cychwyn y Jwrasig, 199.6 miliwn o flynyddoedd Cyn y Presennol (CP).
Cyfnod Triasig 251–199.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl | |
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr | ca. 16 Cyfaint %[1] (80 % o lefel a geir heddiw) |
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr | ca. 1750 rhan / miliwn[2] (6 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol)) |
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb | ca. 17 °C[3] (3 °C uwch na'r lefel heddiw) |
Digwyddiadau allweddol o fewn y Triasig Indwaidd Olenecaidd Anisiaidd Ladiniaidd Carniaidd Noriaidd Rhaetiaidd Llinell amser (amcan) o Ddigwyddiadau o fewn y Triasig. Graddfa'r echelin: Miliynnau o flynyddoedd cyn y presennol. |
Dyma gyfnod cyntaf y gorgyfnod Mesosöig a amcangyfrifir ei fod 251-66 miliwn o flynyddoedd CP. Mae cychwyn a diwedd y Triasig yn digwydd ac yn dynodi digwyddiadau mawr sy'n ymwneud â difodiant (extinction).[7]
Bathwyd y term 'Triasig' yn 1834 gan Friedrich von Alberti, ar ôl y 3 haen o greigiau a geir ledled yr Almaen a gorllewin Ewrop: gwely o graig coch y red bed, calchfaen forol a chyfres o garreg laid a thywodfaen - sef y "Trias".[8]