Baner y Cyngor Nordig
baner cyngor ryngwladol gwledydd annibynnol ac hunanlywodraethol Nordig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Baner y Cyngor Nordig yn las (PMS 300 U), gyda motiff crwn arddulliedig o alarch gwyn. Dewiswyd symbol yr alarch i gynrychioli'r Cyngor Nordig, a Chyngor Gweinidogion Nordig, ym 1984. Mae'r alarch Nordig yn symbol o ymddiriedaeth, uniondeb a rhyddid.[1] Fe'i cynlluniwyd hefyd i symboleiddio cydweithrediad Nordig ehangach. Dyluniwyd y fersiwn gyfredol gan Kontrapunkt yn 2016.