Baner Undeb Kalmar
Baner Undeb Kalmar - undeb gwleidyddol a brenhinol gwledydd Sgandinafia yn yr Oesoedd Canol hwyr. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyflwynwyd baner Undeb Kalmar, a elwir hefyd yn Baner y Gogledd, gan y Brenin Erik VII ym 1430 fan bellaf fel baner ymerodrol ar gyfer achlysuron seremonïol ac roedd i fod i gynrychioli undeb teyrnasoedd Denmarc, Norwy a Sweden a adnabwyd fel Undeb Kalmar (cofier nad yw'r ffiniau yr un peth yn 15g ag yn yr 21g_.
Mae'r faner yn dangos croes Llychlynnaid goch ar gefndir melyn, wedi'i symud tuag at y polyn fflag. Mae'n debyg bod y groes sydd i'w chael ym mron pob baner y gwledydd Nordig heddiw wedi'i chymryd o'r Dannebrog, baner Denmarc; daw'r lliwiau o arfbais Norwy.