Ynysoedd Andaman
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ynysfor ym Mae Bengal yng ngogledd ddwyrain Cefnfor India yw Ynysoedd Andaman. Lleolir ef rhwng isgyfandir India i'r gorllewin a'r gogledd orllewin, Byrma i'r gogledd a'r dwyrain, a Gorynys Maleia a Sumatra i'r de ddwyrain. Gelwir y corff o ddŵr rhwng yr ynysfor a de Byrma yn Fôr Andaman. Ynghyd ag Ynysoedd Nicobar, sy'n gorwedd rhwng yr Andaman a Sumatra, maent yn ffurfio tiriogaeth Ynysoedd Andaman a Nicobar yng Ngweriniaeth yr India. Mae'r ynysfor yn cynnwys mwy na 300 o ynysoedd a chanddynt arwynebedd cyfunedig o 6,408 km2. Y tair ynys fwyaf ydy Gogledd Andaman, Andaman Ganol, a De Andaman, a elwir gyda'i gilydd yn Andaman Fawr. Port Blair yn Ne Andaman yw prifddinas Ynysoedd Andaman a Nicobar.
Math | ynysfor |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Andaman and Nicobar Islands |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 6,408 km² |
Uwch y môr | 732 metr |
Gerllaw | Bae Bengal |
Cyfesurynnau | 12.5°N 92.75°E |
Poblogaeth yr ynysoedd yn 2011 oedd 343,125.[1] . Pobloedd brodorol yw'r mwyafrif o'r trigolion, ac mae tri ohonynt – y Sentinal, y Jarawa, a'r Onge – yn dal i fyw fel helwyr-gasglwyr. Amaeth yw prif diwydiant yr ynysoedd, a thyfir ŷd, codlysiau, cnau coco, cnau betel, ffrwythau, casafa, tsilis, a thyrmerig. O ran cludiant, De Andaman ydy'r unig ynys a chanddi ffyrdd, ac mae agerlong yn cysylltu Port Blair ag ynysoedd Gogledd Andaman, Andaman Ganol, De Andaman, ac Andaman Fach.[2]