Y llechau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r llechau (Saesneg: rickets) yn fwneiddiad neu galcheiddiad diffygiol yr esgyrn cyn terfyniad ardyfiannol mewn mamaliaid anaeddfed o ganlyniad i ddiffyg neu fetaboledd amharedig fitamin D,[1] ffosfforws neu galsium,[2] a all arwain at dorasgwrn neu anffurfiad. Mae'r llechau ymhlith y clefydau plan mwyaf cyffredin mewn nifer o wledydd sy'n datblygu. Y prif achos yw diffyg fitamin D, ond gall diffyg calsiwm yn y deiet hefyd ei achosi (gall y diffyg fod o ganlyniad i ddolur rhydd eithafol a chwydu). Er y gall oedolion ddioddef ohono, mae'r mwyafrif o achosion i'w gweld mewn plant sy'n dioddef o ddiffyg maeth dybryd, fel arfer o ganlyniad i newyn neu lwgu yn ystod blynyddoedd cynnar plentyndod. mewn oedolion.
Enghraifft o'r canlynol | clefyd prin, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd adlunio asgwrn, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae osteomalacia yn gyflwr tebyg sydd i'w weld mewn oedolion, yn gyffredinol o ganlyniad i ddiffyg fitamin D yn dilyn terfyniad ardyfiannol.