Y Firws Zika
From Wikipedia, the free encyclopedia
Aelod o deulu'r Flaviviridae ydyw'r firws Zika (neu ZIKV) a'r genws Flavivirus,[3][4] sy'n cael ei gario liw dydd gan y mosgito Aedes aegypti.[4] Daw'r enw Zika o'r Fforest Zika yn Wganda lle gwelwyd y firws yn 1947 am y tro cyntaf.[5]
Firws Zika | |
---|---|
Llun drwy feicrosgop electron micrograff o'r firws Zika; mae gan bob un ddiametr o 40 nm gydag amlen feddal a chraidd mewnol caled. (Ffynhonnell: CDC).[1] | |
Model 'capsid' o'r Firws Zika, a liwiwyd gan gadwynau, PDB.[2] | |
Dosbarthiad firysau | |
Grŵp: | Grŵp IV ((+)ssRNA) |
Teulu: | Flaviviridae |
Genws: | Flavivirus |
Rhywogaeth: | Y Firws Zika |
O fewn bodau dynol, mae'r symtom cyntaf yn ddigon diddim didda ac ysgafn a gelwir ef yn 'dwymyn Zika', sydd wedi'i hastudio o fewn rhuban o dir o Affrica i Asia ers yr 1950au. Am ryw reswm, yn 2014, ymledodd y firws tua'r dwyrain ac ar draws y Cefnfor Tawel ac i Ynys y Pasg. Yn 2015 ymledodd ymhellach - i ganol America, y Caribî a De America, lle cafwyd epidemig y firws Zika.[6] Mae'r firws Zika yn perthyn yn eithaf agos i gwibgymalwst (neu 'deng'), y dwymyn felen, Japanese encephalitis a firws Gorllewin y Nil.[7] Mae'r dwymyn a geir yn ddigon tebyg i gwibgymalwst,[7] a chaiff ei thrin drwy orffwyso'r claf,[8] ond nid oes unrhyw feddyginiaeth a all ei gwella. Ceir cysylltiad rhwng y dwymyn Zika â Microceffali mewn babanod newydd eu geni, pan fo'r fam wedi'u heintio a throsglwyddir y firws i'r plentyn yn y groth.[9][10].
Yn Ionawr 2016 cyhoeddodd Canolfan Atal Heintiau Unol Daleithiau'r America (CDC) ganllawiau manwl ynglŷn â theithio i'r gwledydd hynny lle mae'r firws yn rhemp, gan gynnwys cymryd gofal cyn dechrau'r daith, canllawiau i ferched beichiog gydag awgrym y dylent ganslo'r daith.[11][12] Dilynwyd y CDC gan nifer o gyrff tebyg mewn gwledydd eraill.[13][14]
Yn Ionawr 2016 hefyd, cyhoeddodd Cyfundrefn Iechyd y Byd ei bod yn bur debygol y gwelir y firws yn ymledu drwy'r rhan fwyaf o'r Americas.[15]