Wicipedia:Ar y dydd hwn/30 Mehefin
From Wikipedia, the free encyclopedia
30 Mehefin: Diwrnod annibyniaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (1960); Dydd Gŵyl Santes Eurgain
- 1646 (377 blynedd yn ôl) – dienyddiwyd Philip Powell, mynach a merthyr Catholig, yn Tyburn ger Llundain
- 1709 (314 blynedd yn ôl) – bu farw Edward Lhuyd, botanegydd, daearegwr, hynafiaethydd ac ieithegwr
- 1934 (89 blynedd yn ôl) – bu farw Hugh Evans, cyhoeddwr, awdur a sefydlydd Gwasg y Brython
- 1934 (89 blynedd yn ôl) – yn yr Almaen Natsïaidd, cychwynnodd Noson y Cyllyll Hirion, sef cyfres o ddienyddiadau i gael gwared ar elynion gwleidyddol Adolf Hitler
- 1937 (86 blynedd yn ôl) – yng ngorsaf reilffordd Abertawe croesawodd y "Mudiad Cymorth i Sbaen" blant y ffoaduriaid cyntaf o Wlad y Basg i gyrraedd yng Nghymru.