Wicipedia:Ar y dydd hwn/2 Tachwedd
From Wikipedia, the free encyclopedia
2 Tachwedd: Dydd Gŵyl Aelhaiarn; Diwrnod y Meirw yn parhau ym Mecsico
- 1401 (621 blynedd yn ôl) – ymladdwyd Brwydr Twthil rhwng byddin Owain Glyn Dŵr a'r Saeson; dyma'r tro cyntaf i Owain ddefnyddio baner y Ddraig Aur
- 1833 (189 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni
- 1848 (174 blynedd yn ôl) – ganwyd Alfred George Edwards, Archesgob cyntaf yr Eglwys yng Nghymru, yn Llanymawddwy, Gwynedd
- 1904 (118 blynedd yn ôl) – bu farw Isaac Foulkes, perchennog a golygydd cyntaf Y Cymro
- 1925 (97 blynedd yn ôl) – torrodd argae Llyn Eigiau, Eryri; collodd 17 eu bywydau ym mhentref Dolgarrog