Wicipedia:Ar y dydd hwn/22 Mehefin
From Wikipedia, the free encyclopedia
- 1402 (622 blynedd yn ôl) – ymladdwyd Brwydr Bryn Glas, pan gafwyd buddugoliaeth fawr i Owain Glyn Dŵr dros y Saeson
- 1265 (759 blynedd yn ôl) – arwyddwyd Cytundeb Pipton rhwng Llywelyn ap Gruffudd a Simon de Montfort
- 1283 (741 blynedd yn ôl) – Dafydd ap Gruffudd yn cael ei gipio gan filwyr Edward I
- 1868 (156 blynedd yn ôl) – bu farw Owain Meirion, 'baledwr heb waelodion', chwedl Mynyddog
- 1876 (148 blynedd yn ôl) – ganwyd yr Arlunydd Gwen John yn Hwlffordd; cyfaill Auguste Rodin.
- 1932 (92 blynedd yn ôl) – ganwyd Mary Wynne Warner, arbenigwr mewn topoleg niwlog (neu fuzzy) (m. 1998)