Volkswagen
isgwmni Volkswagen Group / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwneuthurwr ceir o'r Almaen yw Volkswagen, (VW; ynganiad Almaeneg: [ˈfɔlks.vaːɡən]) sydd a'i bencadlys yn Wolfsburg, Yr Almaen ac a sefydlwyd yn 1937. Volkswagen yw cwmni craidd Grŵp Volkswagen (a sefydlwyd yn 1975) ac a oedd yn Awst 2015 yr ail gwneuthurwr ceir mwyaf yn y byd, ar ôl Toyota.[1] Yn 2012 roedd proffid y cwmni'n €21.7 biliwn. Ymhlith y ceir a werthir gan Grŵp Volkswagen mae: Audi, Bentley, Bugatti, Lamborghini, Porsche, SEAT, Škoda yn ogystal â'u brand (VW) eu hunain.
Math | cynhyrchydd cerbydau |
---|---|
Math o fusnes | Aktiengesellschaft |
Diwydiant | Diwydiant ceir |
Sefydlwyd | 28 Mai 1937 |
Pencadlys | Wolfsburg |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | Volkswagen Golf |
Refeniw | 279,232,000,000 Ewro (2022) |
Incwm gweithredol | 22,124,000,000 Ewro (2022) |
Rhiant-gwmni | Volkswagen AG |
Gwefan | https://www.vw.com/, https://www.volkswagen.de/, https://www.volkswagen.com/, https://www.volkswagen.ru/ |
Mae'r enw'n golygu "car y bobl" mewn Almaeneg, hen arwyddair y cwmni oedd "Aus Liebe zum Automobil" sef cyfieithiad o: "am gariad tuag at y car", slogan newydd y cwmni ydy "Volkswagen - Das Auto" sef "Volkswagen - y Car".
Yn Awst 2015 roedd gan VW dri char yn y rhestr 10-gorau'r byd erioed, yn ôl y wefan 24/7 Wall St. sef: Golf, Volkswagen Beetle, a'r Volkswagen Passat.