Victoria Wood
cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Prestwich yn 1953 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores, dramodydd, cyfansoddwraig, cantores, cherddores a chyfarwyddwraig Seisnig oedd Victoria Wood CBE (19 Mai 1953 – 20 Ebrill 2016).[1] Ysgrifennodd a serennodd Wood mewn sgetshis, dramâu, ffilmiau a chomedïau sefyllfa, ac roedd ei pherfformiadau comedi byw yn cynnwys caneuon roedd wedi ei chyfansoddi a'u chwarae ar y piano. Cyfansoddodd a pherfformiodd Wood arwyddgan ei chyfres gomedi sefyllfa arobryn Dinnerladies ar y BBC. Roedd llawer o'i hiwmor wedi ei seilio ar fywyd bob dydd, ac yn cyfeirio at gyfryngau poblogaidd Prydeinig ac enwau cynnyrch cynhenid Prydeinig. Roedd yn nodedig am arsylwi ar ddiwylliant ac yn dychanu dosbarthiadau cymdeithasol.[2][3]
Ffeithiau sydyn Llais, Ganwyd ...
Victoria Wood | |
---|---|
Llais | Victoria wood bbc radio4 desert island discs 23 12 2007.flac |
Ganwyd | 19 Mai 1953 Prestwich |
Bu farw | 20 Ebrill 2016 o canser Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu, sgriptiwr, canwr-gyfansoddwr, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, cynhyrchydd teledu, canwr, actor ffilm, pianydd, cyfarwyddwr ffilm, digrifwr stand-yp |
Mam | Helen Wood |
Priod | Geoffrey Durham |
Gwobr/au | CBE, British Academy Television Award for Best Actress, Gwobrau Comedi Prydain |
Cau
Dechreuodd ei gyrfa ym 1974 pan enillodd y sioe dalent New Faces.