Urdd Sant Ffransis
From Wikipedia, the free encyclopedia
Urdd Sant Ffransis neu Urdd y Brodyr Lleiaf neu'r Ffransiscaid (Lladin: Ordo Fratrum Minorum, yw'r rhai yn yr Eglwys Gatholig sy'n dilyn "Rheol Sant Ffransis". Cyfeirid atynt yn aml yng Nghymru fel y Brodyr Llwydion.
Enghraifft o'r canlynol | urdd cardod, endid a fu, sefydliad |
---|---|
Math | urdd crefyddol, urdd Gatholig |
Daeth i ben | 2008 |
Dechrau/Sefydlu | 1209, 1968 |
Dechreuwyd | 1209 |
Prif bwnc | lifestance organisation |
Yn cynnwys | brawd Ffransisgaidd, Third Order of Saint Francis, Clariaid Tlodion, Urdd y Mynachod Lleiaf |
Pennaeth y sefydliad | Minister General of the Order of Franciscans |
Sylfaenydd | Ffransis o Assisi |
Olynydd | Urdd y Mynachod Lleiaf, Conventual Franciscans |
Gwladwriaeth | yr Eidal |
Rhanbarth | Assisi |
Gwefan | http://www.ofm.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd yr urdd gan Sant Ffransis o Assisi (1181 - 1226). Yn gynnar yn 1209. clywodd bregeth a newidiodd ei fywyd. Roedd y bregeth ar Matthew 10:9, lle mae Iesu yn dweud wrth ei ddilynwyr am fyned allan heb arian, na hyd yn oed ffon gerdded. Dilynodd Ffransis y gorchymyn, gan deithio o le i le yn droednoeth yn pregethu edifeirwch. Cyn hir, ymunodd ei ddilynwr cyntaf, Bernardo di Quintavalle, ag ef, ac ymhen blwyddyn roedd ganddo unarddeg o ddilynwyr. Aethant i Rufain i ofyn caniatad Pab Innocentius III i ffurfio urdd grefyddol newydd. Gwrthododd Innocent, ond y noson honno cafodd freuddwyd lle gwelodd ddyn tlawd yn cynnal eglwys adfeiliedig rhag syrthio. Galwodd Ffransis yn ôl a newidiodd ei benderfyniad.
Ymhlith aelodau enwog o'r Urdd mae Anthoni o Padua, Bonaventura, John Duns Scotus, Jacopone da Todi (awdur tybiedig y Stabat Mater), Roger Bacon, François Rabelais, Alexander o Hales, William o Ockham, Giovanni da Pian del Carpini, Pio o Pietrelcina, Mychal F. Judge a Gabriele Allegra.
Mae tair cangen i'r Ffransiscaid modern: Ordo Fratrum Minorum, Ordo Fratrum Minorum Capuccinorum a'r Ordo Fratrum Minorum Conventualium.