Trigonometreg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae trigonometreg (Groeg: τρίγωνον "triongl" + μέτρον "mesur") yn gangen o fathemateg sy'n delio gyda hyd ochrau ac onglau thrionglau, yn enwedig y trionglau ongl sgwâr. Gelwir trigonometreg yn "trig" yn anffurfiol. Mae trigonometreg yn delio gyda'r berthynas rhwng ochrau a'r onglau a'r ffwythiannau trigonometregol sy'n disgrifio'r perthnasau hynny.
Enghraifft o'r canlynol | maes o fewn mathemateg |
---|---|
Math | geometreg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gan drigonometreg gymwysiadau mewn mathemateg bur ac mewn mathemateg gymhwysol, ac ystyrir y ddisgyblaeth hon yn anghenrheidiol o fewn nifer o ganghennau o wyddoniaeth a thechnoleg. Câi ei dysgu mewn ysgolion uwchradd fel naill ai cwrs ar wahân neu fel rhan o gwrs cyn-galcwlws.
Daeth y maes i'r amlwg yn yr oes Helenistaidd yr ystod y 3g CC o gymhwyso geometreg ac meysydd eraill megis astudiaethau seryddol.[1] Canolbwyntiodd y Groegiaid ar gyfrifo "cordiau" (e.e. Almagest Ptolemi), tra chreodd mathemategwyr India y tablau gwerthoedd cynharaf y gwyddys amdanynt ar gyfer cymarebau trigonometrig, a elwir hefyd yn swyddogaethau trigonometrig ee sin.[3]
Trwy gydol hanes, cymhwyswyd trigonometreg mewn meysydd fel geodesi, tirfesur, mecaneg nefol, a fforio.[2]
Mae trigonometreg yn adnabyddus am ei unfathiannau trigonometrig a ddefnyddir yn aml ar gyfer ailysgrifennu ymadroddion trigonometreg gyda'r nod o symleiddio'r mynegiad, dod o hyd i ffurf fwy defnyddiol o fynegiant, neu i ddatrys hafaliad.[3][4][5]