Titw cynffonhir
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Titw cynffonhir (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: titwod cynffonhir) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Aegithalos caudatus; yr enw Saesneg arno yw Long-tailed tit. Mae'n perthyn i deulu'r Titwod cynffonhir (Lladin: Aegithalidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Titw cynffonhir Aegithalos caudatus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Aegithalidae |
Genws: | Aegithalos[*] |
Rhywogaeth: | Aegithalos caudatus |
Enw deuenwol | |
Aegithalos caudatus | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. caudatus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop ac Asia. Fel rheol mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yng ngorllewin Ewrop mae'n aros trwy'r flwyddyn. Gellir ei adnabod yn hawdd, yn enwedig o'r gynffon hir - mae'r aderyn tua 13–15 cm o hyd ond mae'r gynffon yn 7–9 cm o hyd a'r corff dim ond tua 6 cm. Mae'n ddu a brown ar y cefn, coch neu binc ar yr ochrau a gwyn ar y bol, gyda chap gwyn ar y pen. Mae'r is-rywogaeth yng ngogledd Ewrop, (A. c. caudatus), ychydig yn wahanol, gyda'r pen yn wyn i gyd a'r ochrau'n wyn.
Fel rheol gellir ei weld mewn heidiau o rhyw 6 i 15 aderyn, weithiau fwy, yn symud yn ddi-baid o un goeden i'r llall. Adeiledir y nyth mewn coeden neu lwyd gan ddefnyddio gwe pryf copyn i ddal y nyth at ei gilydd. Mae'n dodwy rhwng 6 a 12 wy.
Mae'r Titw Cynffon-hir yn aderyn cyffredin yng Nghymru. Gall ei niferoedd ddisgyn yn sylweddol os ceir gaeaf anarferol o galed, ond buan yr adferir ei nifer.