Thomas Erastus
From Wikipedia, the free encyclopedia
Diwiynydd o'r Swistir oedd Thomas Erastus (7 Medi 1524 – 31 Rhagfyr 1583).[1] Enwyd Erastiaeth ar ei ôl.
Thomas Erastus | |
---|---|
Ganwyd | Thomas Lüber 7 Medi 1524 Baden |
Bu farw | 31 Rhagfyr 1583 Basel |
Dinasyddiaeth | Y Swistir |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diwinydd, meddyg, academydd |
Cyflogwr |
|
Credir i Erastus gael ei eni yn Baden, Canton Aargau, i rieni tlawd. Astudiodd ym Mhrifysgol Basel, yna yn Bologna a Padova. Daeth yn gyfrin-gynghorydd i'r Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Frederic III.
Mewn diwinyddiaeth, roedd yn ddilynydd Zwingli. Yn 1589, cyhoeddwyd ei waith Explicatio gravissimae quaestionis utrum excommunicatio, quatenus religionem intelligentes et amplexantes, a sacramentorum usu, pro pier admissum facinus arcet, mandato natur divino, an excogitala sit ab hominibus, sy'n datgan mai'r wladwriaeth oedd a'r hawl i gosbi pechodau Ceistionogion, nid yr eglwys. Rhoddodd hyn ei enw i Erastiaeth, barn fwy cyffredinol, sef mai'r wladwriaeth a ddylai fod yn ben mewn materion eglwysig.