Thomas Ceiri Griffith
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffisegydd ac achyddwr oedd Thomas Ceiri Griffith (1925 – 26 Mawrth 2016)[1].Yn hynaf o dri mab John a Rebecca Griffith. Fe'i ganwyd yn Llanbedr, Harlech, cyn symud i Gwm Bifor, Gwmystradllyn. Pan foddwyd y tŷ hwnnw wrth ymestyn Ystradllyn aeth y teulu i Benllechog, Llanaelhaearn ac yna i Blas Gwyn, Y Ffôr. Bu Ceiri Griffith yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, cyn graddio[2] a gwneud doethuriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (BSc 1946; PhD 1950). Roedd ei brosiect ymchwil (dan oruchwyliaeth George Evans) yn ddilyniant i waith Evan J. Williams[3] (Dessin, y bu farw mis Mai 1946)). Mae'r tri yn gyd-awduron ar bapur gyntaf Ceiri Griffiths yn y cylchgrawn Nature. Bu'n swyddog ymchwil (yn Sefydliad Ymchwil Atomig Harwell[4]) gyda Harrie Massey[5] yn Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) (1948-1950) cyn ei benodi (1950) yn ddarlithydd yn adran ffiseg y brifysgol honno, lle arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1989. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n weithgar ym mywyd Cymry Llundain gan fod yn Is Lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion am nifer o flynyddoedd ac yn Lywydd 1986-8[6].
Bu'n briod tair gwaith. Gyda Myra Jones (1925-2009) ganwyd iddynt fab, y radiolegydd blaenllaw Tudor Morley Griffiths (1951-2011)[7]. Gyda Winifred June Roberts (1929-1989), un o bileri Gymdeithas Cymry Llundain a'r Cymmrodorion a'i ysgrifennyddes o1980[6], cafwyd tri o blant Gareth, Nia ac Alun[1]. Yn 1990 priododd ag Ann Eluned Owen, ac ymgartrefu ym mro ei febyd yn Chwilog[1]. Bu farw yno yn 2016[8].