The Matrix
ffilm agerstalwm sy'n dilyn hynt a helynt grwp o ffrindiau gan The Wachowskis a gyhoeddwyd yn 1999 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffilm ffugwyddonol a welodd olau dydd yn 1999 ac sy'n serennu Keanu Reeves, Laurence Fishburne, Carrie-Anne Moss, a Hugo Weaving yw The Matrix (1999); cynhyrchwyd gan y chwiorydd Wachowski: Lana a Lilly. Mae'r ffilm yn darlunio dystopia o ddyfodol ble mae realaeth fel y caiff ei deimlo/synhwyro gan y rhan fwyaf o bobol yn ffug realaeth a elwir yn "the Matrix" sydd wedi'i greu gan beiriannau ymdeimladol i ddarostwng dyn. Yn y broses, defnyddir eu cyrff gan y peiriant, fel mae hefyd yn defnyddio gwres a gweithgaredd trydanol.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Lana Wachowski Lilly Wachowski |
Cynhyrchydd | Joel Silver Lana Wachowski Lilly Wachowski |
Ysgrifennwr | Larry Wachowski Andy Wachowski |
Serennu | Keanu Reeves Laurence Fishburne Carrie-Anne Moss Hugo Weaving Joe Pantoliano Gloria Foster |
Cerddoriaeth | Don Davis |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Warner Bros. Village Roadshow Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 31 Mawrth 1999 |
Amser rhedeg | 136 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau / Awstralia |
Iaith | Saesneg |
Olynydd | The Matrix Reloaded |
Mae'r rhaglenwr meddalwedd "Neo"'n dysgu'r gwirionedd yma a chaiff ei dynnu i ryfel yn erbyn y peiriannau, rhyfel i ryddhau pobl o'u "byd breuddwydiol".
Datblygwyd un dechneg yn y ffilm a gaiff ei gydnabod heddiw fel cam mawr a phwysig ym myd y ffilm ffugwyddonol, sef y dechneg a elwir yn "bullet time", ble mae'r ymdeimlad o rai cymeriadau yn cael ei gynrychioli drwy ganiatáu un symudiad mewn araflun (slow motion) falwennu'n araf yn ei flaen, tra'i fod o safbwynt (neu berspectif) y camera'n ymddangos i symud ar gyflymder arferol. Mae'r ffilm yn esiampl o'r genre a elwir yn "wyddonias pync".[1] Mae'n cynnwys nifer o gyfeiriadau i syniadau crefyddol ac athronyddol, megis Alegori'r Ogof gan Plato[2], Simulacra and Simulation gan Jean Baudrillard[3] ac Alice's Adventures in Wonderland gan Lewis Carroll.[4]
Dylanwadwyd yn fawr ar y ddau frawd a sgwennodd y sgript gan animeiddiadau o Japan[5], ffilmiau crefft ymladd (martial arts) a choreograffi paffio. Cafodd y ffilm gryn effaith a dylanwad ar ffilmiau Hollywood a'i dilynodd.
Lansiwyd The Matrix yn gyntaf yn Unol Daleithiau America ar 31 Mawr 1999, a chymerwyd dros $460 miliwn yn fyd-eang. Gan fwyaf, fe'i croesawyd gan y beirniaid ffilm,[6][7] ac enillodd 4 Gwobr Academi yn ogystal â nifer o wobrau eraill gan gynnwys Gwobr BAFTA, Gwobr Academi Ffilm Prydain a "Gwobr Sadwrn". Fe'i canmolwyd yn bennaf am ei effeithiau technegol, ei sinematograffi a'i allu i ddiddanu.
Mae'r ffilm wedi ymddangos mewn rhestr o'r ffilmiau ffugwyddonol gorau,[8][9] ac yn 2012 fe'i hychwanegwyd i'r Gofrest Ffilm Cenedlaethol (The National Film Registry) i'w gadw. Oherwydd ei lwyddiant ysgubol, crewyd dwy ffilm dilynol, y ddwy wedi'u sgwennu a'u cynhyrchu gan y brodyr Wachowski: The Matrix Reloaded a The Matrix Revolutions. Datblygwyd masnachfraint hefyd er mwyn cynhyrchu a gwerthu comics, fideos a gemau wedi'u sylfaenu ar y Matrix, dan arweiniad y ddau frawd.