The Louvin Brothers
From Wikipedia, the free encyclopedia
Deuawd gerddorol Americanaidd oedd The Louvin Brothers. Dau frawd oeddent, Ira a Charlie Louvin, eu henwau go iawn oedd Lonnie Loudermilk (21 Ebrill 1924 - 20 Mehefin 1965), a Charlie Elzer Loudermilk (7 Gorffennaf 1927 - 26 Ionawr 2011). Mae'r brodyr yn gefndryd i John D. Loudermilk.
Ysgrifennodd a pherfformiodd y brodyr gerddoriaeth wlad seciwlar, yn ogystal â cherddoriaeth efengyl llym. Chwaraeodd Ira mandolin yn feistrolgar, ac yn gyffredinol roedd yn canu'r prif lais tenor, tra bod Charlie yn chwarae gitâr rhythm a lleisiau cefnogol mewn dôn is. Fe wnaethant helpu i boblogeiddio'r dechneg leisiol o harmoni agos mewn cerddoriaeth gwlad a roc gwlad.[1]
Ar ôl dod yn berfformwyr rheolaidd yn y Grand Ole Opry a chael dilyniant o senglau poblogaidd ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 60au, ymwahanodd The Louvin Brothers ym 1963, i raddau oherwydd bod Charlie wedi blino ar gaethiwed ac ymddygiad di-hid Ira. Bu farw Ira mewn damwain draffig ym 1965. Cawsant eu sefydlu yn y Country Music Hall of Fame yn 2001, a bu farw Charlie o ganser yn 2011. Fe wnaeth Rolling Stone rhestri'r Louvin Brothers rhif 4 ar ei restr o'r 20 Deuawd Gorau Erioed.[2]