The Last Days of Dolwyn
ffilm ddrama gan y cyfarwyddwyr Emlyn Williams a Russell Lloyd a gyhoeddwyd yn 1949 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae The Last Days of Dolwyn (a ailenwyd yn Women of Dolwyn ar gyfer y farchnad Americanaidd) yn ffilm ddrama Brydeinig a chyhoeddwyd ym 1949. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Russell Lloyd ac Emlyn Williams. Sêr y ffilm oedd Edith Evans, Emlyn Williams, Richard Burton ac Anthony James. Mae'r hanes yn un am Gymro, sydd wedi gwneud yn dda yn Llundain ac sy'n dychwelyd i bentref ei febyd gyda chynlluniau i foddi’r cwm[1] lle saif y pentref gan greu gwrthdaro rhwng pentrefwyr sydd â pherthynas ysbrydol a’r fro a’r sawl sy’n cael eu simsanu gan rym arian.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Lliw/iau ...
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | du-a-gwyn |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Dyddiad cyhoeddi | 13 Ebrill 1949 |
Genre | ffilm ddrama |
Lleoliad y gwaith | Cymru |
Hyd | 95 munud |
Cyfarwyddwr | Russell Lloyd, Emlyn Williams |
Cynhyrchydd/wyr | Anatole de Grunwald |
Cyfansoddwr | John D. H. Greenwood |
Dosbarthydd | British Lion Films |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Otto Heller |
Cau
The Last Days of Dolwyn oedd ffilm gyntaf Richard Burton, ac ymddangosiad ffilm gyntaf Edith Evans ers 1916 a'r unig ffilm i gael ei chyfarwyddo gan Emlyn Williams, a oedd hefyd yn awdur y sgript.