Teyrnas Serbia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwladwriaeth yn y Balcanau a fodolai o 1882 i 1918 oedd Teyrnas Serbia (Serbeg: Краљевина Србија trawslythreniad: Kraljevina Srbija). Dyrchafwyd Tywysogaeth Serbia yn deyrnas ym 1882 pryd datganwyd Milan I—Tywysog Serbia ers 1868—yn Frenin Serbia, yn sgil cudd-gytundeb gydag Awstria-Hwngari. Roedd yn ffinio ag Awstria-Hwngari i'r gogledd a'r gogledd-orllewin, Tywysogaeth Montenegro (Teyrnas Montenegro o 1910 ymlaen) i orllewin y canolbarth, Albania (rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd hyd at 1912) i'r de-orllewin, Teyrnas Groeg i'r de, Tywysogaeth Bwlgaria (Tsaraeth Bwlgaria o 1908 ymlaen) i'r dwyrain, a Theyrnas Rwmania i'r gogledd-ddwyrain. Beograd oedd y brifddinas, Serbeg oedd y briod iaith, ac Eglwys Uniongred Serbia oedd y ffydd gyffredin.
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Beograd |
Sefydlwyd | |
Anthem | Bože pravde |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Serbeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cynghreiriaid |
Gwlad | Teyrnas Serbia |
Arwynebedd | 92,208 km² |
Yn ffinio gyda | Awstria-Hwngari |
Cyfesurynnau | 44.8108°N 20.4625°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Q31181734 |
Crefydd/Enwad | Serbian Orthodox Church |
Arian | dinar (Serbia) |