Talaith La Rioja, yr Ariannin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Talaith yng ngogledd-orllewin yr Ariannin yw Talaith La Rioja. Mae'n ffinio â thaleithiau Catamarca i'r gogledd, Córdoba i'r dwyrain, San Luis i'r de, a San Juan i'r de-orllewin, ac yn y gorllewin â Tsile. Y brifddinas yw La Rioja. Mae tirwedd y dalaith yn cynnwys cyfres o fynyddoedd cras gyda dyffrynnoedd amaethyddol rhyngddynt.
Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Math | taleithiau'r Ariannin |
---|---|
Prifddinas | La Rioja |
Poblogaeth | 387,728 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Sergio Casas |
Cylchfa amser | UTC−03:00, America/Yr Ariannin/La Rioja |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | ZICOSUR |
Sir | yr Ariannin |
Gwlad | Yr Ariannin |
Arwynebedd | 89,680 km² |
Yn ffinio gyda | Talaith San Juan, Talaith San Luis, Talaith Córdoba, Talaith Catamarca, Rhanbarth Atacama |
Cyfesurynnau | 29.43°S 66.85°W |
AR-F | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | deddfwrfa La Rioja |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Llywodraethwr Talaith La Rioja |
Pennaeth y Llywodraeth | Sergio Casas |
Cau
Yng Nghyfrifiad 2022 roedd gan y dalaith boblogaeth o 384,607.[1]