Stuart McDonald
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Alban yw Stuart McDonald (ganwyd 2 Mai 1978) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Cumbernauld, Kilsyth a Dwyrain Kirkintilloch; mae'r etholaeth yn Nwyrain Swydd Dunbarton a Gogledd Swydd Lanark, yr Alban. Mae Stuart McDonald yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin - y cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon ar ran yr SNP.
Stuart McDonald | |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 7 Mai 2015 | |
Rhagflaenydd | Gregg McClymont (Llafur) |
---|---|
Geni | (1978-05-02) 2 Mai 1978 (45 oed) Dwyrain Swydd Dunbarton, Yr Alban |
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Cumbernauld, Kilsyth a Dwyrain Kirkintilloch |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Alma mater | Prifysgol Caeredin |
Galwedigaeth | Cyfreithiwr |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Fe'i magwyd mewn pentref bychan Milton of Campsie yn Nwyrain Swydd Dunbarton, ble mae'n dal i fyw. Graddiodd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caeredin (a blwyddyn ym Mhrifysgol Leuven) cyn gweithio mewn practis o gyfreithwyr lleol ac yna i Swyddfa Cyfreithiol NHS yr Alban. Yn Nhachwedd 2005 cychwynodd McDonald weithio i'r Immigration Advisory Service (IAS) gan arbenigo mewn Hawliau Dynol a bu yno tan Tachwedd 2009. Yna, cychwynodd fel Ymchwilydd Uwch yn Senedd yr Alban. Yn Chwefror 2013 gweithiodd fel Ymchwilydd Uwch i'r ymgyrchwyr o blaid Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014.[1] Ychydig cyn iddo gael ei ethol yn 2015 gweithiodd i elusen Coalition for Racial Equality and Rights yn Glasgow.[2]