Stewart Hosie
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Alban yw Stewart Hosie (ganwyd 3 Ionawr 1963) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ddwyrain Dundee; mae'r etholaeth yn Aberdeen a Swydd Aberdeen, yr Alban. Mae Stewart Hosie yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Stewart Hosie | |
Cyfnod yn y swydd 14 Tachwedd 2014 – 13 Hydref 2016 | |
Rhagflaenydd | Iain Luke (Llafur) |
---|---|
Geni | (1963-01-03) 3 Ionawr 1963 (59 oed) Dundee (Dùn Dé), Yr Alban |
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Dwyrain Dundee |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Shona Robinson |
Plant | Un ferch |
Alma mater | Prifysgol Abertay |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Un o Dundee ydy Hosie, ac i'r dref honno yr aeth i'r coleg i astudio cyfrifiadureg. Bu'n rhedeg cwmni cyfrifiadurol am 20 mlynedd.[1][1] O 1986-89 ef oedd AS cynta'r SNP i fod yn Drefnydd Ieuenctid (Youth Convener).[2] Bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol y blaid am bedair mlynedd, cyn gael ei ethol i fod yn Drefnydd y Blaid yn 2003.[2]
Cafodd ei ethol i Senedd Prydain yn gyntaf yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005 yn etholaeth Dwyrain Dundee a bu'n Llefarydd dros Faterion Mewnol a Merched tan 2007. Ers hynny ef yw'r Llefarydd dros y Trysorlys, ac yn aelod o Brif Bwyllgor Trysorlys y Llywodraeth. Yn 2010 fe'i gwnaed yn Ddirprwy Arweinydd ac yn Brif Chwip yr SNP.[3]
Mae ei wraig Shona Robison yn Aelod o Senedd yr Alban dros Ddwyrain Dinas Dundee.