Sara Lidman
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures a newyddiadurwr o Sweden oedd Sara Lidman (30 Rhagfyr 1923 - 17 Mehefin 2004).
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Sara Lidman | |
---|---|
Ganwyd | Sara Adéla Lidman 30 Rhagfyr 1923 Missenträsk |
Bu farw | 17 Mehefin 2004 Umeå |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, newyddiadurwr |
Arddull | nofel |
Gwobr/au | Gwobr Selma Lagerlöf, Gwobr Dobloug, Prif Gwobr Samfundet De Ni, Gwobr Lenyddol y Cyngor Nordig, doctor honoris causa, Medal Diwylliant ac Addysg, Gwobr Dobloug, Gwobr Aniara, Gwobr Llenyddiaeth Östersunds-Posten, Ivar-Lo-Preis, Hedenvind-plaketten, Moa-prisen, Q96068904 |
Cau
Fe'i ganed yn Missenträsk yn Sir Västerbotten yng ngogledd Sweden a bu farw yn Umeå yng ngogledd-ddwyrain y wlad.[1][2][3][4][5]
Astudiodd ym Mhrifysgol Uppsala ond daeth ei hastudiaethau i ben pan ddaliodd y diciâu (yr hen enw oedd "y ddarfodedigaeth"). Daeth ei llwyddiant mawr cyntaf gyda'r nofel Tjärdalen. Yn y nofel hon ac yn ei hail nofel Hjortronlandet mae'n darlunio themâu fel dieithrio ac unigrwydd. Yn ei nofelau cynnar, mae'n canolbwyntio ar amodau anodd ffermwyr tlawd yn nhalaith gogleddol Västerbotten yn ystod y 19g.