Salman Rushdie
From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofelydd a thraethodydd Prydeinig-Indiaidd yw Syr Ahmed Salman Rushdie (Hindi: सलमान रश्दी, Wrdw: سلمان رشدی; ganwyd 19 Mehefin 1947 ym Mumbai, India). Daeth yn enwog gyda'i ail nofel, Midnight's Children (1981), a enillodd y Booker Prize. Lleolir llawer o'i waith ffuglen yn isgyfandir India, ond yn fwyfwy hanes hir a chyfoethog y cysylltiadau, rhwygiadau ac ymfudiadau niferus rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin yw thema ddominyddol ei waith.
Salman Rushdie | |
---|---|
Ganwyd | احمد سلمان رشدی 19 Mehefin 1947 Mumbai |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, India |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, awdur ysgrifau, sgriptiwr, awdur plant, actor, awdur |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Satanic Verses |
Arddull | realaeth hudol |
Prif ddylanwad | Italo Calvino, Vladimir Nabokov, Christopher Hitchens, Gabriel García Márquez |
Mudiad | Beirniadaeth hanesyddol |
Tad | Anis Ahmed Rushdie |
Priod | Marianne Wiggins, Padma Lakshmi, Elizabeth West, Clarissa Luard, Rachel Eliza Griffiths |
Plant | Zafar Rushdie, Milan Rushdie |
Gwobr/au | Commandeur des Arts et des Lettres, PEN Pinter Prize, Gwobr Goffa James Tait Black, Gwobr Man Booker, Gwobr James Joyce, Gwobr Kurt Tucholsky, Gold Medal of the Círculo de Bellas Artes, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Mythopoeic Awards, Gwobr Llyfrau Costa, Gwobr Llyfrau Costa, Gwobrau Llyfr Prydain, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Crossword Book Award, Hans Christian Andersen Literature Award, National Arts Awards, Golden PEN Award, Aristeion Prize, Gwobr Norman Mailer, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Emperor Has No Clothes Award, dyneiddiwr, honorary doctor of the University of Tromsø, Honorary doctor of the University of Liège, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg, Cydymaith Anrhydeddus, Urdd Cymdeithion Anrhydedd, Marchog Faglor, Ordre des Arts et des Lettres |
Gwefan | https://www.salmanrushdie.com |
Cythruddodd ei bedwaredd nofel, The Satanic Verses (1988), ymatebion treisgar o Fwslemiaid radicalaidd. Yn dilyn bygythiadau angheuol a ffatwa a ddatganwyd gan yr Ayatollah Khomeini Iranaidd yn galw am ei fradlofruddiaeth, treuliodd flynyddoedd dan ddaear, ac ymddangosodd yn gyhoeddus yn achlysurol. Pa fodd bynnag, yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae Rushdie wedi dychwelyd i fyw bywyd llenyddol normal. Gwnaethpwyd yn farchog ym Mehefin 2007[1] a arweiniodd at feirniadaeth gan Fwslemiaid byd-eang.[2].
Ym mis Awst 2022, cafodd Rushdie ei anafu gan ymosodwr pan oedd yn rhoi darlith yn yr Unol Daleithiau.[3]