Rolf Harris
actor a chyfansoddwr a aned yn Perth yn 1930 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Canwr, cyfansoddwr, arlunydd, digrifwr a chyflwynydd teledu Awstralaidd o dras Cymreig oedd Rolf Harris (30 Mawrth 1930 ā 10 Mai 2023). Cafodd ei eni yn Bassendean, Perth, Gorllewin Awstralia. Peintiwr portreadau o ardal Merthyr Tudful oedd ei daid, George Frederick Harris.[1] Symudodd i'r Deyrnas Unedig fel myfyriwr celf yn ystod yr 1950au. Mae ei wraig Alwen Hughes yn Gymraes.
Rolf Harris | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mawrth 1930 Bassendean |
Bu farw | 10 Mai 2023 o cancr y pen a'r gwddf, frailty syndrome Bray |
Label recordio | Columbia Records, Epic Records, Capitol Records, EMI Records |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, arlunydd, canwr, cyfansoddwr, actor, cyfansoddwr caneuon, cyfarwyddwr ffilm, diddanwr |
Cyflogwr | |
Arddull | comedy music |
Priod | Alwen Hughes |
Plant | Bindi Harris |
Gwobr/au | CBE, Swyddogion Urdd Awstralia, Medal Canmlwyddiant, Aelod o Urdd Awstralia, MBE, OBE |
Chwaraeon |
Roedd Rolf Harris yn enwog am ganeuon fel "Tie Me Kangaroo Down, Sport" a ddaeth yn boblogaidd yn y Top 10 hits yn Awstralia. Yn America ac yn y Deyrnas Unedig bu Harris yn enwog am caneoun fel "Jake The Peg". Oedd e wastad yn chwarae didgeridoo a bwrdd wabble yn ystod ei berformiadau. Yn ystod yr 1960au ar 1970au daeth Rolf Harris yn bersonolaeth boblogaidd yn y Deyrnas Unedig yn cyflwyno rhaglenni fel "Animal Hospital" a "Rolf's cartoon club".
Yn 2013, roedd yn un o 12 o bobl a arestiwyd gan swyddogion o Operation Yewtree, a fe'i gyhuddwyd o nifer o achosion, yn dyddio o'r 1980au, o ymosod yn anweddus ar ferched ifanc. Gwadodd y cyhuddiadau ond fe'i gafwyd yn euog ar ddeuddeg achos ym Mehefin 2014. Ar 4 Gorffennaf 2014, yn 84 mlwydd oed fe'i ddedfrydwyd i bum mlynedd a naw mis yn y carchar. Fe'i ryddhawyd ar 19 Mai 2017. Gwynebodd saith cyhuddiad arall o drais rhywiol. Fe'i gliriwyd gan reithgor o 3 achos ond nid oeddent yn gallu dod i benderfyniad mewn pedwar achos arall felly fe'i ryddfarnwyd o'r cyhuddiadau.
Bu farw o ganser yn 93 oed.[2]