Robinson Crusoe
nofel gan Daniel Defoe / From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofel Saesneg o waith Daniel Defoe yw Robinson Crusoe am gymeriad o'r un enw a'i longddrylliad ar ynys unig. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn Ebrill 1719, ac ystyrir gan rai mai hon oedd y nofel gyntaf yn Saesneg. Ffurf y llyfr yw hunangofiant y prif gymeriad, Robinson Crusoe, oedd wedi treulio 28 mlynedd ar ynys fechan yn y trofannau yn dilyn llongddrylliad. Roedd cyhoeddi'r gyfrol gyntaf yn llwyddiant masnachol ysgubol ac oherwydd y gwerthiant, cyhoeddwyd dair gwaith drachefn o fewn y flwyddyn gyntaf.
Credir i Defoe gael ei ddylanwadu gan hanes Alexander Selkirk, a dreuliodd bedair blynedd ar ynys Más a Tierra, Tsile. Efallai fod yr ynys y llongddrylliwyd Crusoe arni yn y nofel wedi ei seilio ar ynys Tobago. Dylanwad arall posibl oedd cyfrieithiad i'r Lladin neu Saesneg o waith Abubacer, Philosophus Autodidactas, oedd hefyd yn defnyddio ynys debyg fel cefndir. Yn ôl y llenor Gwyddelig James Joyce, roedd y nofel yn llawn propaganda o blaid ymlediad yr Ymerodraeth Brydeinig ledled y byd.[1]