Queen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Grŵp roc byd-enwog o'r Deyrnas Unedig ydy Queen ac fe'i ffurfiwyd yn Llundain yn 1970 gan y gitarydd, Brian May, y canwr Freddie Mercury a'r drymiwr Roger Taylor, ymunodd y gitarydd bâs John Deacon blwyddyn yn ddiweddarach. Cododd Queen i'r amlwg yn ystod yr 1970au; maent yn un o fandiau mwyaf llwyddiannus gwledydd Prydain dros y tri degawd diwethaf.[1]
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | Elektra Records, Capitol Records, EMI Records, Hollywood Records, Parlophone Records, Island Records, EMI |
Dod i'r brig | 1970 |
Dechrau/Sefydlu | 1970 |
Genre | roc blaengar, roc glam, cerddoriaeth roc caled, cerddoriaeth roc, roc celf, roc poblogaidd, metal trwm traddodiadol, cerddoriaeth metel trwm |
Gwefan | https://queenonline.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r band yn nodweddiadol am ei amrywiaeth cerddorol, gyda chyfansoddiadau aml-haenog, harmonïau llais a chyfuniad cyfranogaeth y dorf yn eu perfformiadau byw.[2] Etholwyd eu perfformiad yn Live Aid 1985 y perfformiad cerddorol gorau erioed gan arolwg barn y BBC yn 2005.[3]
Cafodd Queen lwyddiant cymedrol yn gynnar yn yr 1970au gyda'r albymau Queen a Queen II, ond rhyddhad Sheer Heart Attack yn 1974 a A Night at the Opera y flwyddyn ganlynol a enillodd lwyddiant rhyngwladol i'r band. Mae pob un o albymau stiwdio'r band wedi cyrraedd safle rhif 1 mewn amryw o siartiau ar draws y byd. Ers 1973, maent wedi rhyddhau pymtheg albwm stiwdio, pump albwm byw a nifer o albymau casgliad. Yn ôl OhmyNews, mae'r band wedi gwerthu dros 300 miliwn copi ar draws y byd,[4] gan gynnwys mwy na 32.5 miliwn yn yr Unol Daleithiau yn unig,[5] gan eu gwneud yn un o'r bandiau sydd wedi gwerthu'r nifer fwyaf erioed.
Yn dilyn marwolaeth Freddie Mercury ac ymddeoliad John Deacon yn yr 1990au,[6] mae'r gitarydd Brian May a'r drymiwr Roger Taylor wedi gweithio ynghyd â Paul Rodgers o dan yr enw Queen + Paul Rodgers.