Omar Sharif
actor a aned yn 1932 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor a chwaraewr cardiau o'r Aifft yw Omar Sharif (Arabeg: عمر الشريف (ganwyd Michel Demitri Shalhoub; 10 Ebrill 1932 – 10 Gorffennaf 2015[1]). Ystyr y cyfenw a fabwusiadodd yw "uchelwr" yn Arabeg. Ymhlith ei ffilmiau enwocaf y mae: Lawrence of Arabia (1962), Doctor Zhivago (1965) a Funny Girl (1968). Cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi a 3 Golden Globe Award a Gwobr César.
Omar Sharif | |
---|---|
Ffugenw | عمر الشريف |
Ganwyd | ميشيل يوسف ديمتري شلهوب 10 Ebrill 1932 Alexandria |
Bu farw | 10 Gorffennaf 2015 o trawiad ar y galon Behman Hospital |
Dinasyddiaeth | Yr Aifft |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, ysgrifennwr, bridge player, awdur ffeithiol, actor teledu |
Adnabyddus am | Doctor Zhivago, Lawrence of Arabia |
Arddull | y Gorllewin Gwyllt |
Tad | Joseph Chalhoub |
Priod | Faten Hamama |
Plant | Tarek Sharif |
Gwobr/au | Gwobr y Llew Aur am Gyflawniadau Gydol Oes, Gwobr César am yr Actor Gorau, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, Golden Globe Award for New Star of the Year – Actor |
Chwaraeon |
Cafodd ei eni yn Alexandria, yr Aifft, yn fab i Joseph Chalhoub a'i wraig Claire Saada a oedd yn prynu a gwerthu coed. Derbyniodd Sharif ei addysg yng Ngholeg Victoria, Alexandira cyn ymuno gyda Phrifysgol Cairo lle'r astudiodd mathemateg a ffiseg. Priododd yr actores Faten Hamama ym 1955, gan droi'n Fwslim a chawsont un plentyn: Tarek Sharif a anwyd yn 1957. Yn 1974 chwalwyd y briodas ac ni phriododd eildro.[2] A thros y blynyddoedd disgynodd dros ei ben a'i glustiau gyda nifer o actoresau enwog gan gynnwys Ingrid Bergman, Catherine Deneuve ac Ava Gardner.[3]
Yn y 1950 serennodd mewn ffilmiau Arabeg yn ei wlad ei hun, a daeth yn boblogaidd dros nos.