Neilldir Indiaidd
tir a neillduwyd i frodorion yr Americas / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tir a neilltuwyd ar gyfer brodorion gwreiddiol America yw Neilldir Indiaidd (Saesneg: Indian reservation). Gair cyfansawdd yw 'neilldiroedd' sef 'neilltuo' a 'tir'. Mae'r neilldiroedd hyn wedi eu cofrestru gan y cenhedloedd brodorol (ac nid gan y taleithiau unigol): ceir 574 o lwythau (neu 'genhedloedd') a gydnabyddir yn ffederal sy'n byw yn yr UD, ac mae tua hanner ohonynt yn gysylltiedig â Neilldiroedd Indiaidd. Diffinnir y term "Americanwyr Brodorol" gan Gyfrifiad yr Unol Daleithiau, sef y llwythau sy'n dod o'r Unol Daleithiau ac Alaska yn wreiddiol. Ceir 326 Neilltir Indiaidd.
Enghraifft o'r canlynol | neilldir |
---|---|
Math | endid gweinyddol yn UDA, tiroedd ble mae brodorion gwreiddiol gwlad yn byw, Neilldir Indiaidd |
Dechrau/Sefydlu | 1763 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae sawl Neilldir Indiaidd yn cael eu rhannu rhwng sawl llwyth ac mae sawl llwyth heb neilldir o gwbwl.[1] Yn ogystal, oherwydd sut y rhannwyd y tiroedd yn y gorffennol (a gwerthu llawer o'r tir i Americanwyr Anfrodorol). Mae'r clytwaith cymhleth hwn o eiddo preifat a chyhoeddus yn creu anawsterau gweinyddol, gwleidyddol a chyfreithiol sylweddol.
Cyfanswm arwynebedd y Neilldiroedd Indiaidd yw 56,200,000 acr (22,700,000 ha neu 87,800 milltir sgwâr) - tua'r un faint a thalaith Idaho neu Ynys Prydain.
Er bod y rhan fwyaf o'r Neilldiroedd Indiaidd yn fach o gymharu â thaleithiau'r UD, mae deuddeg ohonyn nhw'n fwy na thalaith Rhode Island. Y mwyaf yw Neilldir Cenedl Nafacho, sy'n debyg o ran maint i Orllewin Virginia. Dosbarthwyd y Neilldiroedd yn anwastad ledled y wlad; mae'r mwyafrif i'r gorllewin o'r Mississippi ac yn meddiannu tiroedd a gafodd eu cadw gyntaf trwy gytuniad neu "a roddwyd" o'r tiroedd cyhoeddus.[2]
Oherwydd mai sofraniaeth lwythol cyfyngedig sydd gan genhedloedd Brodorol America, gall eu deddfau amrywio o ddeddfau gweddill yr ardal sydd y tu allan i'r Neilldiroedd.[3] Er enghraifft, gall deddfau o fewn y Neilldiroedd ganiatáu casinos mewn taleithiau nad ydynt yn caniatáu gamblo. Yn gyffredinol, mae gan y cyngor y brodorion, awdurdodaeth llwyr dros yr Neilldir, yn fwy na'r llywodraeth leol, llywodraeth y wladwriaeth neu'r Llywodraeth Ffederal. Mae gan wahanol Neilldiroedd systemau llywodraeth gwahanol. Sefydlwyd y mwyafrif o'r Neilldiroedd Brodorol America gan y llywodraeth ffederal.[4]
Mae'r term "neilldir" yn ddynodiad cyfreithiol. Daw o'r syniad o genhedloedd Brodorol America fel sofraniaid annibynnol ar yr adeg y cadarnhawyd Cyfansoddiad yr UD. Felly, cytuniadau a orfodwyd yn aml ar y brodorion yw'r rhain, neu a gytunwyd arnynt drwy dwyll. Yn y cytuniadau hyn, roedd y Brodorion Indiaidd yn "neilltuo" tiroedd ar wahan i'r gweddill, iddyn nhw eu hunain, a dyma darddiad y term.[5][6] Parhaodd y term i gael ei ddefnyddio ar ôl i'r llywodraeth ffederal ddechrau adleoli cenhedloedd yn dreisgar i ddarnau o dir nad oedd ganddynt gysylltiad hanesyddol ag ef.
Heddiw mae mwyafrif yr Americanwyr Brodorol ac a Brodorion Alaska yn byw y tu allan i'r Neilldiroedd yn aml mewn dinasoedd gorllewinol mwy fel Phoenix a Los Angeles.[7][8] Yn 2012, roedd dros 2.5 miliwn o Americanwyr Brodorol, gydag 1 filiwn yn byw yn y Neilldiroedd.[9]