Nantlle
pentref yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd yw Nantlle ( ynganiad ). Saif ar y ffordd B4418 rhwng Talysarn a Rhyd Ddu.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0569°N 4.225°W |
Cod OS | SH509534 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Tyfodd pentref Nantlle fel pentref i'r gweithwyr yn y chwareli llechi cyfagos, ac mae olion y chwareli hynny i'w gweld ymhobman o gwmpas y pentref, yn enwedig i'r gogledd. I'r de o'r pentref mae Llyn Nantlle Uchaf, sydd ag Afon Drws-y-coed yn llifo i mewn iddo ac Afon Llyfni yn tarddu ohono.
Cyfeirir at nifer o leoedd yn ardal Nantlle ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Dywedir fod y gair "Nantlle" ei hun yn dod o "Nant Lleu".
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]
Ar un adeg roedd dau lyn yma, fel y gwelir yn yr enw "Baladeulyn". Gyda datblygiad y chwareli fe wacawyd y dŵr o'r llyn arall, Llyn Nantlle Isaf, a newidiwyd cwrs Afon Llyfni. Yn ffermdy Talymignedd Uchaf gerllaw'r pentref y ganwyd Margaret Evans, "Marged Fwyn Uch Ifan" (ferch Ifan), sy'n cael ei choffáu yn y pennill:
- Mae gan Marged fwyn Uch Ifan
- Delyn fawr a thelyn fechan;
- Un i ganu'n nhre Caernarfon
- A'r llall i gadw'r gŵr yn fodlon.
Lleolir Ysgol Baladeulyn yn y pentref. Mae papur bro Lleu yn gwasanaethu Nantlle.