Mwncïod y Byd Newydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae mwncïod y Byd Newydd yn bum teulu o brimatiaid o Canolbarth America, Mecsico a De America, sef y Callitrichidae, Cebidae, Aotidae, Pitheciidae, a'r Atelidae. Gelwir y grŵp yma o bum teulu (neu 'uwchdeulu') yn Ceboidea. Dyma'r unig uwchdeulu byw yn y 'parfurdd' Platyrrhini, gair sy'n golygu ‘trwyn gwastad’, gan fod eu trwynau'n fwy gwastad na phrimatiaid eraill.[1][2]
Y mwncïod yn y teulu Atelidae, e.e. y mwncïod heglog, yw'r unig primatiaid sydd â chynffonnau gafaelog. Perthnasau agosaf mwncïod y Byd Newydd yw'r simiaid, y Catarrhini, sef mwncïod yr Hen Fyd ac epaod. Mae mwncïod y Byd Newydd yn ddisgynyddion o'r simiaid Affricanaidd y fu'n byw drwy Dde America, llinell a ymwahanodd dros 40 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[3]