Morfa Bychan
pentref yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref arfordirol yng Ngwynedd yw Morfa Bychan ( ynganiad ). Saif i'r de-orllewin o dref Porthmadog ac i'r dwyrain o Gricieth, ar ochr ogleddol aber Afon Glaslyn lle mae'n cyrraedd Bae Tremadog.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Porthmadog |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9144°N 4.1643°W |
Cod OS | SH544374 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Mae'n lle poblogaidd iawn gan dwristiaid yn yr haf, yn enwedig oherwydd traeth Morfa Bychan, Black Rock Sands yn Saesneg, sy'n ymestyn o'r pentref i gyfeiriad Cricieth. Caniateir gyrru ceir ar y traeth yma. Ceir nifer o siopau a thafarnau yma ynghyd â sawl gwersyll carafanau.
Gerllaw mae gwarchodfa natur Morfa Bychan, yn perthyn i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a heb fod ymhell o'r pentref mae'r Garreg Wen, cartref y cerddor Dafydd y Garreg Wen. Y tu ôl i'r pentref ceir bryn Moel y Gest.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]