Margaret McCoubrey
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffeminist Gwyddelig a anwyd yn yr Alban oedd Margaret McCoubrey (ganwyd 1880–1955) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched a swffragét.
Margaret McCoubrey | |
---|---|
Ganwyd | 1880 Elderslie |
Bu farw | 1955 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Lafur Annibynnol |
Fe'i ganed yn Elderslie, ger Glasgow, Renfrewshire yn 1880. Priododd McCoubrey, undebwr llafur o Iwerddon a symudodd y ddau i Belfast. Yno, ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol Menywod Prydain (WPSU sef British Women's Social and Political Union), gan deithio i Lundain fel cynrychiolydd menywod Gogledd Iwerddon. Ymunodd â Chymdeithas Etholfraint Merched Iwerddon yn 1910, ac roedd yn ymgyrchydd milwriaethus. Roedd y thema o 'hunan-aberth' yn hollbwysig ymhlith swffragetiaid a mynodd Margaret McCoubrey eu bont yn parhau â'r traddodiad Gwyddelig o brotestio treisgar. [1]