Mahatma Gandhi
arweinydd gwleidyddol a chrefyddol Indiaidd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cenedlaetholwr gwrth-wladychol a heddychwr o India oedd Mohandas Karamchand Gandhi (2 Hydref 1869 – 30 Ionawr 1948) (Devanagari: मोहनदास करमचन्द गांधी, Gujarati મોહનદાસ કરમચંદ ગાંધી)[1]. Roedd hefyd yn gyfreithiwr Indiaidd,[2][3] a moesegydd gwleidyddol[4] a heddychwr a arweiniodd wrthwynebiad di-drais ei bobl yn eu hymgyrch lwyddiannus dros annibyniaeth India yn erbyn rheolaeth Lloegr (Prydain),[5] ac i ysbrydoli ymgyrchoedd dros hawliau sifil a rhyddid ledled y byd.
Mahatma Gandhi | |
---|---|
Llais | Gandhi - His Spiritual Message to the World, 17 October 1931.mp3 |
Ganwyd | મોહનદાસ ગાંધી 2 Hydref 1869 Porbandar |
Bu farw | 30 Ionawr 1948 o anaf balistig Gandhi Smriti |
Man preswyl | Llundain, India, De Affrica |
Dinasyddiaeth | y Raj Prydeinig, Dominion of India, India |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr, ysgrifennwr gwleidyddol, newyddiadurwr, athronydd, hunangofiannydd, awdur ysgrifau, golygydd papur newydd, ymgyrchydd hawliau sifil, bywgraffydd, dyngarwr, ymgyrchydd heddwch, chwyldroadwr, ysgrifennwr, cyfreithegwr, ymladdwr rhyddid |
Adnabyddus am | satyagraha |
Prif ddylanwad | Henry David Thoreau, Lev Tolstoy, Siddhartha Gautama, G. K. Chesterton, John Ruskin, Vyasa, Narmadashankar Dave, Shrimad Rajchandra, Henry Stephens Salt, Thiruvalluvar |
Taldra | 164 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Cyngres Genedlaethol India |
Mudiad | di-drais, llysieuaeth |
Tad | Karamchand Uttamchand Gandhi |
Mam | Putlibai Karamchand Gandhi |
Priod | Kasturba Gandhi |
Plant | Harilal Gandhi, Manilal Gandhi, Ramdas Gandhi, Devdas Gandhi |
Gwobr/au | Time Person of the Year, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Queen's South Africa Medal, Natal Native Rebellion Medal, Kaisar-i-Hind Medal |
llofnod | |
Mae'r enw Mahātmā anrhydeddus (Sansgrit: "eneidfawr" neu "hybarch"), a gymhwyswyd gyntaf iddo ym 1914 yn Ne Affrica, bellach yn cael ei ddefnyddio ledled y byd.[6][7] Adnabyddir ef fel rheol fel Mahatma Gandhi; ystyr Mahatma yw "Eneidfawr".
Mae ei athroniaeth wedi dylanwadu ar nifer o arweinwyr ymgyrchoedd am hawliau, er enghraifft Martin Luther King a Nelson Mandela.
Daeth yn arweinydd Cyngres Genedlaethol India ym 1921, ac arweiniodd Gandhi ymgyrchoedd ledled y wlad i leddfu tlodi, ehangu hawliau menywod, adeiladu hawliau crefyddol ac ethnig, dod â chyffyrddadwyedd (untouchability) i ben, ac, yn anad dim, cyflawni swaraj . Roedd y syniad o swaraj, neu hunanreolaeth yn pwysleisio llywodraethu, nid gan lywodraeth hierarchaidd, ond trwy hunan-lywodraethu trwy unigolion ac adeiladu cymunedol, lle mae'r ffocws ar ddatganoli gwleidyddol.[8]
Mabwysiadodd Gandhi y dhoti byr - math o wisg wedi'i wehyddu ag edafedd wedi'i nyddu â llaw er mwyn uniaethu â thlodion gwledig India. Dechreuodd fyw mewn cymuned hunangynhaliol, i fwyta bwyd syml, ac ymgymryd ag ymprydiau hir fel modd o fewn-fyfyrio ac fel protest wleidyddol. Gan ddod â chenedlaetholdeb gwrth-wladychol i'r Indiaid cyffredin, arweiniodd Gandhi drwy herio'r dreth halen a orfodwyd gan Loegr gyda'r 400 km (250 milltir) ym 1930 ac wrth alw ar y Saeson i adael India ym 1942. Fe'i carcharwyd lawer gwaith ac am nifer o flynyddoedd yn Ne Affrica ac India.
Mae pen-blwydd Gandhi, 2 Hydref, yn cael ei gofio yn India fel Gandhi Jayanti, gwyl genedlaethol, a ledled y byd fel Diwrnod Rhyngwladol Di-drais. Mae Gandhi yn cael ei ystyried yn gyffredin, er nad yn swyddogol, yn Dad y Genedl yn India[9][10] ac fe'i gelwid yn gyffredin yn Bapu [11] (Gwjarati : y tad,[12] dada[12][13] ).