Maenclochog
pentref a chymuned yn Sir Benfro / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned yng ngogledd Sir Benfro, Cymru, yw Maenclochog.[1] Mae'n gorwedd i'r de o fryniau Preseli, tua milltir i'r de-ddwyrain o bentref Rhos-y-bwlch ac 11 milltir i'r de-ddwyrain o Abergwaun.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 731 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,129.93 ha |
Cyfesurynnau | 51.9115°N 4.7879°W |
Cod SYG | W04000444 |
Cod OS | SN0834127337 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
Cau
Yn 2007 darganfuwyd olion muriau hen gastell, sy'n dyddio i'r 13g efallai, wrth gloddio ar safle maes parcio newydd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]