Llyfr Ancr Llanddewibrefi
llawysgrif Gymraeg o'r 14g / From Wikipedia, the free encyclopedia
Llawysgrif o'r 14g yw Llyfr Ancr Llanddewibrefi (weithiau Llyfr yr Ancr neu 'Goleg yr Iesu MS 119'). Mae'n dyddio i 1346, ac yn gasgliad o destunau ar bynciau crefyddol wedi'u cyfieithu o'r Lladin i'r Gymraeg. Ancr dienw, sef math o feudwy wedi'i leoli ger eglwys, a sgwennodd y llawysgrif.
Enghraifft o dudalen o lawysgrif Ancr Llanddewibrefi | |
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1346 |
Cysylltir gyda | Gruffydd ap Llywelyn ap Phylip ap Trahaearn |
Dechrau/Sefydlu | 1346 |
Lleoliad | Coleg yr Iesu |
Mae'n cynnwys casgliad o destunau crefyddol wedi'u cyfieithu o'r Lladin i'r Gymraeg, ac yn eu plith yr Elucidarium, yn ogystal â Historia Lucidar, Ymborth yr Enaid, Breuddwyd Pawl (rhestr isod) a thestun Prester John Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit. Dywed y llawysgrifiwr, yn y llawysgrif, i'r gwaith gael ei gomisiynu gan Gruffydd ap Llywelyn ap Phylip ap Trahaearn o Gantref Mawr yn Sir Gaerfyrddin, ychydig i'r gogledd o Gydweli.
Rhoddwyd y llawysgrif i Goleg yr Iesu, Rhydychen yn y 18g, ac mae bellach yn cael ei chadw yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen, gyda llawysgrifau Cymraeg eraill megis Llyfr Coch Hergest.[1] Yn hydref 2021 cytunodd Coleg yr Iesu, Rhydychen i roi trwydded agored CC-BY-SA ar y delweddau o bob tudalen, ac fe'u huwchlwythwyd i Gomin Wicimedia.
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru llawysgrif 17-18fed ganrif, sydd yn gopi hanesyddol o fersiwn Coleg yr Iesu.[2]
- Agoriad 'Ystoria Lucidar' yn y llawysgrif gwreiddiol
- Testun Llyvyr Agkyr Llanddewivrevi' (Gol. J. Morris Jones a John Rhys; Gwasg Clarendon, Rhydychen; 1894). Mae agoriad y llawysgrif ar dudalen 37.
- Agoriad 'Ystoria Lucidar' ar drawsgrifiad o'r llawysgrif gan Brosiect Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425. Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn bennaf.